Cynlluniau gwerth £700,000 i adfywio tref Y Barri
- Cyhoeddwyd
Mae Ynys y Barri yn adnabyddus i genedlaethau o bobl sydd wedi bod yno ar wyliau, neu i wylwyr cyfres Gavin a Stacey yn fwy diweddar.
Ond nawr mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yr ardal yn cael ei hailddatblygu fel cyrchfan dwristiaeth.
Bydd yr hen wersyll Butlin's, a gaeodd ei ddrysau 17 mlynedd yn ôl, yn cael ei droi'n ganolfan gymunedol.
Bydd gwaith ar ran gynta'r prosiect, gwerth £692,000, yn dechrau yn syth.
Mae 'na gynlluniau hefyd i wella rhannau eraill, gan gynnwys y promenâd dwyreiniol.
Mae Ynys y Barri wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr ers 150 o flynyddoedd.
Ar ei anterth yn 1934, fe ddenodd 400,000 o ymwelwyr yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc mis Awst.
Gavin and Stacey
Ond daeth Y Barri i sylw'r cyhoedd eto trwy gyfres gomedi'r BBC Gavin and Stacey, stori am berthynas rhwng merch o'r Barri a'i chariad o Essex.
Roedd 'na dair cyfres o'r rhaglen, a ysgrifennwyd gan Ruth Jones a James Corden, oedd hefyd yn actio rhannau ffrindiau Gavin a Stacey.
Butlin's oedd un o atyniadau enwoca'r dre', ond cafodd ei werthu yn yr 1980au hwyr cyn cae yn derfynol.
Cafodd tai eu hadeiladu ar ran o'r safle.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, sy'n ariannu rhan gynta'r prosiect, bydd y gwaith adfywio yn creu "gofod digwyddiadau" fydd yn caniatáu cyngor Bro Morgannwg a'r gymuned leol i gynnal gweithgareddau.
Bydd maes parcio dros dro i drigolion ac ymwelwyr hefyd yn cael ei godi fel rhan o'r cynllun.
'Pellgyrhaeddol'
Meddai Huw Lewis, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros Adnewyddu: "Mae rhan gynta'r gwaith hwn yn dechrau gydag ailddatblygu hen safle Butlin's ar Ynys y Barri, sy'n rhan ganolog o adfywio'r Barri.
"Bydd buddianau pellgyrhaeddol i'r Barri a'r ardal gyfagos, gyda mwy o gyfleusterau i drigolion ac ymwelwyr."
Ers 2010, mae'r llywodraeth yn dweud eu bod wedi addo £6.5 miliwn tuag at 35 o brosiectau yn Y Barri.
"Y gwaith ar Nell's Point yw rhan gynta'r ymdrech i adfywio'r safle ond y gwir nod yma yw denu buddsoddiad o'r sector preifat ar gyfer safle aml-bwrpas ar gyfer pob tywydd," ychwanegodd Mr Lewis.
Pryderon
Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ddydd Mercher, dywedodd Steffan William, cynghorydd Plaid Cymru ar gyngor Bro Morgannwg, ei fod yn croesawu'r buddsoddiad ond yn pryderu am y diffyg manylion.
"Un cyfle gawn ni i wneud hyn yn iawn ac ar hyn o bryd bach iawn yw'r manylion.
"Dwi'n pryderu am y diffyg ymgynghori sydd wedi bod hyd yma," meddai.
"Dwi'n credu fod angen i ni feddwl am ffyrdd o ddenu twristiaeth a hynny heb fod ar draul yr ardal leol. Mae modd gwneud hynny os wnawn ni feddwl yn ddychmygus ac yn greadigol."