Anrhydeddu Syr David Brailsford
- Cyhoeddwyd
Mae'r dyn oedd yn bennaf gyfrifol am lwyddiant ysgubol tîm seiclo Prydain yn y Gemau Olympaidd wedi cael ei anrhydeddu gan y Frenhines.
Cafodd Syr Davie Brailsford, 48 oed ac a fagwyd yn Neiniolen, Gwynedd, ei gydnabod am ei wasanaeth i seiclo ym Mhrydain a'r Gemau Olympaidd.
Arweiniodd y tîm oedd yn cynnwys Geraint Thomas, Bradley Wiggins a Sir Chris Hoy i gyfres o fedalau aur yn y Gemau.
Dywedodd ei fod yn teimlo balchder mawr am yr anrhydedd.
Roedd ei athroniaeth o "welliannau bychain" yn cynnwys golchi dwylo, cysgu gyda'r un glustog a defnyddio past dannedd gydag un streipen yn rhyfeddol o effeithiol wrth i'r tîm ennill 12 medal yn y Gemau yn Llundain.
Brailsford oedd cyfarwyddwr perfformiad y tîm, ac fe dderbyniodd ei anrhydedd gan y Frenhines ym Mhalas Buckingham ddydd Iau - ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn 49.
Dywedodd y Marchog newydd bod nifer o heriau o'i flaen - anelu at fuddugoliaeth arall yn y Tour De France a pharhau i weithio gyda Team Sky a'r tîm Olympaidd.
Rhoddodd deyrnged hefyd i'r genhedlaeth newydd o feicwyr ym Mhencampwriaeth y Byd ym Minsk yn ddiweddar gan gynnwys Becky James o'r Fenni a enillodd bedair medal - dwy aur a dwy efydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2012