Mynd i Gorwen Hefo Alys yw'r Gân i Gymru 2013
- Cyhoeddwyd

Mae Rhys Gwynfor ac Osian Williams yn ennill gwobr o £3,500 a chyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon
Enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni yw'r gân Mynd i Gorwen Hefo Alys gan Rhys Gwynfor ac Osian Williams, dau aelod o Jessop a'r Sgweiri.
Maen nhw'n ennill gwobr o £3,500 a chyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.
Elin Fflur a Dafydd Du gyflwynodd y gystadleuaeth a gafodd ei darlledu yn fyw ar S4C o hen adeilad y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd nos Wener.
Eisoes eleni roedd y chwech oedd wedi cyrraedd y Rhestr Fer wedi derbyn £900 er mwyn recordio a chynhyrchu eu cân mewn stiwdio o'u dewis nhw.
Y pump arall ar y Rhestr Fer eleni oedd:
Alun Evans gyda'r gân Breuddwydion Ceffylau Gwyn
Catrin Herbert gyda'r gân Ein Tir Na Nóg Ein Hunain
Elin Parisa Fouladi a Ben Dabson gyda'r gân Aur ac Arian
Geth Vaughan a Pete Jarvis gyda'r gân Amser Mynd i'n Gwlâu
Rhydian Gwyn Lewis gyda'r gân Bywyd Sydyn
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2012
