Pryder gwirioneddol am fygythiad 'difrifol' ffliw adar eleni

Rhaid cadw tyrcwn a ieir dan do ar hyn o bryd, oherwydd bygythiad ffliw adar
- Cyhoeddwyd
Mae'n "amhosib gorbwysleisio" faint mae ffermwyr ieir a thyrcwn yn pryderu am ledaeniad ffliw adar ar hyn o bryd, medd arweinwyr y diwydiant.
Bu'n rhaid difa degau ar filoedd o adar fferm yn ystod yr wythnosau diwethaf yn dilyn achosion yng nghanolbarth, gorllewin a gogledd Cymru.
Dywedodd un busnes dofednod y gallai fod "yn un o'r blynyddoedd gwaethaf" hyd yma o ran effaith y clefyd, tra i ffarmwraig sy'n cadw tyrcwn ddweud na fyddai'n medru parhau yn y diwydiant petai'n cael ei tharo.
Rhybuddiodd prif filfeddyg Cymru, Richard Irvine, fod y sefyllfa hyd yma yr hydref hwn yn "ddifrifol", gan annog ffermwyr i wneud "bob dim y medran nhw" i warchod eu hadar a'u busnesau.
Parth gwarchod ffliw adar o gwmpas ardal Pontyberem
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Cyflwyno mesurau wrth i Gymru 'wynebu risg uchel o ffliw adar'
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd
Canfod achos o ffliw adar ar safle yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd31 Hydref
"Byddai'n torri 'nghalon i - gorfod dweud wrth ein cwsmeriaid ni nad oes twrci gyda ni ar eu cyfer nhw y Nadolig 'ma," meddai Kate Postance o Postance Poultry yn Nhremain, Ceredigion.
Mae'r busnes teuluol yn magu oddeutu 500 o dyrcwn a thros 300 o ieir - a'r rhain i gyd yn cael eu cadw dan do ar hyn o bryd, i'w gwarchod rhag ffliw adar.
Disgrifio'r sefyllfa fel "flockdown" mae Ms Postance, ar ôl i Lywodraeth Cymru orchymyn bod yn rhaid cadw dofednod dan do o 13 Tachwedd.
'Gofid mawr'
Roedd Lloegr a Gogledd Cymru wedi cyflwyno'r un cyfyngiadau yn gynharach yn y mis.
"Ry'n ni'n cael notifications bob dydd os oes achos newydd yn y Deyrnas Unedig, a ma' nhw'n pingo yn aml iawn ar hyn o bryd," meddai Ms Postance.
"Ma' fe'n ofid mawr sy'n effeithio arnon ni bob dydd lan hyd bod y twrcis wedi mynd, achos mae'n really bwysig bod pobl yn cael eu twrcis at y Nadolig."
"Yn anffodus, os byse adar ni'n cael eu heffeithio, sai'n gweld ffordd nol i gadw twrcis neu ieir byth 'to i fod yn onest," meddai.
Er eu bod yn byw'n agos i'r arfordir fe benderfynodd Kate, ei gŵr a'u tri o blant, beidio ag ymweld â'r traeth gydol yr Haf, gan boeni y gallen nhw ddod a'r feirws yn ôl i'r ffarm.
"Ro'n ni'n gwybod ei fod e' yna o bosib gan fod adar wedi golchi lan - mae just yn anffodus bod y ffliw yma'n cael ei gario gan adar gwyllt ac fel y'ch chi fod i reoli hynny?" gofynnodd.

Mae Kate Postance yn magu 500 o dyrcwn at y Nadolig
Ers i'r tymor hwn ddechrau ym mis Hydref mae 'na 50 achos o ffliw adar [HPAI] H5N1 wedi'u cadarnhau ar ffermydd ar draws y DU, gan gynnwys saith yng Nghymru.
Maen nhw'n cynnwys unedau dofednod mawr a 31,000 o dyrcwn, un â 28,800 o ieir yn Sir Benfro, safle a 26,000 o ieir ym Mhowys ac un arall a 32,000 yn Sir Ddinbych.
Mae ffermydd llai o faint â'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "haid iard gefn" wedi'u heffeithio hefyd.

David, gŵr Kate, yn ymlacio gyda'r twrcwn yn Nhremain, Ceredigion
Dywedodd Chris Thomas o Pencwarre Poultry bod yna botensial mai eleni fyddai "un o'r blynyddoedd gwaetha'" hyd yma ar gyfer ffliw adar.
Mae ei fusnes yn Llandygwydd, Ceredigion yn magu cywion ac adar ifanc sy'n cael eu gwerthu maes o law i ffermydd.
"Ry'n ni wedi lleoli rhwng tair sir a dwy ohonyn nhw - Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin - wedi gweld achosion o fewn y mis diwetha'," meddai - "mae bendant yn dod yn nes at adre i ni eleni".
Fe ddywedodd bod y rheolau a'r oruchwyliaeth ychwanegol wedi achosi oedi o ran sicrhau trwyddedau i symud adar oddi ar y safle i gwsmeriaid, gan effeithio'r busnes.
"Bob dydd ti just yn becso os byddwn ni'n cael e'? Alle fe ddod ar unrhyw beth? Ma' adar yn paso dros ben ni bob dydd," meddai.
"Dyna ble mae biosecurity mor bwysig i ni," ychwanegodd.

Mae Chris a'i deulu yn poeni'n fawr beth fyddai'n digwydd petai ffliw adar yn cyrraedd eu fferm
Mae'r gorchymyn i gadw dofednod dan do yn effeithio ar fusnesau sydd â dros 50 o adar, er bod rhaid gwneud hefyd gyda heidiau llai o faint - os yw eu cig neu eu hwyau yn cael eu gwerthu neu eu cynnig i bobl.
Mae parthau rheoli gyda goruchwyliaeth lymach hefyd yn agos i safleoedd lle mae achosion o'r clefyd wedi'u cadarnhau yn ardal Aberdaugleddau, Sir Benfro, Pontyberem, Sir Gaerfyrddin, Y Trallwng, Powys a Chynwyd, Sir Ddinbych.
Tra bod y rheolau'n gwneud hi'n haws i gadw adar gwyllt a rhai domestig ar wahân, rhybuddiodd Dafydd Jarrett o undeb NFU Cymru y gallau "un llwy de o faw adar sydd wedi'i heintio arwain at ladd miliwn o dyrcwn".
"Dyna faint o beryg ydy o, felly ma' cadw hynna allan o'ch adeilad ieir yn anodd," meddai.
'Effaith andwyol'
Dywedodd Dafydd Jarrett: "'Sa' chi'n cael glaw mawr er enghraifft a dŵr yn dod i mewn i'r sied ac adar wedi bod ar do'r sied.
"Mae'r sector yn un sy'n cymryd bioddiogelwch yn ddifrifol iawn iawn, ond falle bod angen mynd notch yn uwch hyd yn oed."
Mae cael eu taro â ffliw adar yn cael effaith "andwyol" ar fusnesau dofednod, eglurodd - gyda'r holl adar yn cael eu difa a'r busnesau ar stop am hyd at flwyddyn, er mwyn mynd trwy broses lanhau a diheintio trylwyr.
Dywedodd Mr Jarrett fod yr undeb yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod canfyddiadau ymchwiliadau i achosion sy'n cael eu cadarnhau, yn cael eu cyhoeddi mor fuan â phosib rhag ofn bod cyfle i fusnesau eraill ddysgu o'r profiad a gweld os allan nhw amddiffyn eu hadar hyd yn oed yn well.

Disgrifio'r sefyllfa ffliw adar fel un "difrifol" mae prif filfeddyg Cymru, Richard Irvine
Dywedodd Dr Irvine bod patrwm yr achosion o ffliw adar sydd wedi'u gweld hyd yma yr hydref hwn yn cymharu â 2022/23.
Bryd hynny gwelodd y DU y mwya' o achosion o'r clefyd hyd yma, gyda 207 i gyd rhwng Hydref 2022 a Medi 2023.
Roedd y llywodraeth yn gweithio'n agos a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a chyrff eraill yn y diwydiant i fonitro'r sefyllfa, meddai.
"Rhaid i ni gofio bod hyn y clefyd hynod o heintus - glendid a bioddiogelwch yw'r amddiffynfeydd gorau sydd gyda ni a bellach mae 'na orfodaeth i gadw adar dan do yng Nghymru hefyd."
'Clefyd dinistriol'
"Mae'r clefyd yma yn ddinistriol a ry'n ni'n cydnabod yn llwyr yr effaith mae'n ei gael nid yn unig ar adar ond hefyd ar y sawl sy'n gofalu amdanyn nhw a'r busnesau sy'n cael eu heffeithio," ychwanegodd Dr Irvine.
Daw'r sylwadau wrth i ffermwyr ymgynnull yn Llanelwedd ar gyfer Ffair Aeaf blynyddol Cymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru.
Mae elusennau natur wedi rhybuddio hefyd am yr effaith ar adar gwyllt wrth i'r feirws ledu, gan gynnwys poblogaethau o adar morol ar hyd yr arfordir sydd o bwys yn fyd-eang.
Yn ôl Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU mae'r risg i'r cyhoedd ar hyn o bryd yn "isel iawn" tra bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn dweud bod cig ac wyau o adar fferm yn ddiogel i'w bwyta os ydyn nhw'n cael eu coginio yn gywir.
Gan fod ffliw adar yn glefyd hysbysadwy rhaid i unrhyw un sy'n ei amau gysylltu ag APHA.