Disgwyl i bobl wario llai ar ddydd Gwener Gwallgof eleni

- Cyhoeddwyd
Ddydd Gwener yma bydd hi'n Ddydd Gwener Gwallgof (Black Friday) - sy'n parhau i fod y diwrnod mwyaf llwyddiannus yn y flwyddyn o safbwynt gwerthiant mewn siopau.
Ond mae arolwg diweddaraf Consortiwm Manwerthu Prydain yn awgrymu y bydd cwsmeriaid yn fwy gwyliadwrus o'u gwario, gyda ffigurau gwerthiannau ar draws pob sector wedi bod ar eu hisaf fis Hydref eleni.
Yn ôl arolwg gan YouGov, roedd 59% o oedolion y DU wedi dechrau ar eu siopa Nadolig fis Tachwedd y llynedd.
Ond oherwydd pryderon yn sgîl cyllideb yr Hydref y tro hwn, mae'n ymddangos na fydd hyd yn oed y Dydd Gwener Gwallgof yn gallu annog cwsmeriaid i wario mwy na'r arfer eleni.
Dywedodd Dr Edward Jones, Uwch-ddarlithydd mewn Economeg ym Mhrifysgol Bangor, fod Dydd Gwener Gwallgof fel arfer yn "bwysig iawn" i fusnesau ond bod arbenigwyr yn "dechrau sylweddoli patrwm fod pobl yn gwario llai".

Mae Consortiwm Manwerthu Prydain wedi dweud mai mis Hydref eleni yw'r gwanaf ar gofnod o ran twf manwerthu ers mis Mai y flwyddyn yma
Mae cwmnïau fel Sainsbury's ac Argos eisoes wedi cyhoeddi eu bod nhw'n pryderu am effaith y gyllideb ar eu gwerthiannau.
Mae cwsmeriaid yn ymddangos fel eu bod nhw rhwng dau feddwl – eu bod nhw eisiau paratoi o flaen llaw, ond hefyd yn ansicr o'r camau i'w cymryd.
Dyma oedd barn rhai o leisiau y stryd fawr yng Nghaerdydd ar y pwnc:
Dywedodd un: "Fi'n gweld y siopau'n dechre llenwi lan gyda stwff am y Nadolig, maen nhw 'na i'w prynu – dylwn i fod yn mynd? Nawr ti 'di gofyn y cwestiwn, ti 'di gwneud i mi feddwl dylwn i fod yn gwneud."
"Oedd hi'n fwy cyfleus imi baratoi tipyn bach yn gynharach eleni… mae'r budget hyn nawr yn ofni pobl yn 'dyw e," meddai cwsmer arall.
Ychwanegodd un arall: "Fi 'di bod yn planio ers 2-3 months... achos y thing yw, fel 'dyn ni'n agosáu at y Nadolig 'ni'n gweld, yn enwedig gyda stwff i'r plant, ni'n gweld pethau'n mynd mor ddrud yn anffodus.
"Fi definitely ddim moyn i 'mhlant i deimlo eu bod wedi misso mas."
'Pobl ddim mor barod i wario'
Dywedodd Dr Edward Jones: "Y tueddiad yw bod y siopau ar-lein a hyd yn oed ar y stryd fawr yn edrych ymlaen am fod hwn yn ddiwrnod pwysig iawn iddyn nhw yn y calendar lle maen nhw'n gallu gwerthu llawer o'u nwyddau.
"Ond, dwi'n tybio ei bod yn mynd i fod ychydig bach yn wahanol flwyddyn 'ma."
Mae'r data yn dangos fod pobl yn gwario llai yn y blynyddoedd diwethaf, meddai, ac mae'r gyllideb yn ffactor ychwanegol eleni.
"Mae 'na lawer o ansicrwydd wedi bod efo'r gyllideb felly tydy pobl ddim mor barod i wario ac yr oedden nhw ynghynt oherwydd maen nhw'n poeni am ba fath o drethi bydden nhw'n ei dalu ar ôl i Rachel Reeves wneud y cyhoeddiad," meddai.
"Wrth gwrs, 'dan ni 'di cael chwyddiant.. inflation uchel yn y wlad ac mae hwnna 'di aros ym meddyliau pobl ac felly mae pobl yn dueddol o safio mwy o arian nag oedden nhw gynt."
Ychwanegodd fod "lot o bwysau ar y prynwyr y dyddiau yma" gyda dylanwadwyr ar-lein hefyd yn cael effaith ar arferion siopau a'i fod yn "beth da i gymryd stop i feddwl" cyn prynu rhywbeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.