Arloeswr AI o Gymru yn galw am 'ddewrder' wrth ymdopi â'r dechnoleg

Llion Jones yn sefyll ar lwyfan gyda chefndir oren a phatrymau hecsagon du wedi’u gosod ar draws y wal. Mae’n gwisgo crys â phatrwm llwyd tywyll a golau, gyda llewys eang, ac mae ei ddwylo wedi’u codi wrth drafod gyda'r gynulleidfa.Ffynhonnell y llun, TED AI
Disgrifiad o’r llun,

Fel un o arloeswyr y genhedlaeth newydd o systemau AI, mae Llion Jones yn teithio'r byd i drafod y dechnoleg

  • Cyhoeddwyd

Mae gwyddonydd cyfrifiadurol o Gymru, sydd wedi chwyldroi ein defnydd o ddeallusrwydd artiffisial (AI), wedi galw ar y DU i fod yn "ddewr" wrth geisio datblygu'r dechnoleg.

Roedd Llion Jones, fu'n rhan o'r tîm arloesol yn Google ddatgelodd botensial AI i ymateb mewn ffordd debyg i berson, yn rhybuddio rhag ceisio cystadlu â'r "hyper-scalers" yn yr Unol Daleithiau a China.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru dywedodd Llion, a gafodd ei eni ym Mangor a'i fagu yn Abergynolwyn, fod angen cywiro'r ymatebion "sycophantaidd" sy'n gyffredin gan y genhedlaeth bresennol o declynnau AI fel ChatGPT.

"Mae angen i ni greu AI sy'n gallu anghytuno â ni, ac sy'n gallu cywiro ni," meddai.

Rhoi'r 'T' yn ChatGPT

Mae Mr Jones ymhlith awduron y papur Attention Is All You Need o 2017, a gyflwynodd mecanwaith y Transformer, sef y "T" yn ChatGPT.

Dyma'r datblygiad yn sail i'r systemau AI sy'n trawsnewid busnes a bywyd bob dydd.

Yn dal i fyw yn Tokyo, mae Jones bellach yn brif swyddog technoleg Sakana AI, y cwmni a sefydlodd gyda chyn-ymchwilydd Google arall.

Mae'r cwmni'n canolbwyntio ar ymchwil arloesol i ddarganfod defnyddiau AI y dyfodol, rhywbeth dywedodd sy'n "unigryw" i'w gwmni ef.

Dywedodd fod cwmnïau technoleg mawr yn canolbwyntio ar wneud arian o'r genhedlaeth bresennol o fodelau iaith mawr (large language models).

'Bod yn fwy dewr'

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Mr Jones fod angen i lywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan dderbyn realiti'r ras fyd-eang sy'n cael ei hennill gan America a China, a chanolbwyntio ar ddatblygiadau AI gwahanol.

"Nid yw gwlad fel Cymru, na hyd yn oed Prydain, yn mynd i guro'r hyper-scalers. Dydyn nhw ddim yn mynd i guro America a China wrth dyfu'r systemau AI yma.

"Felly beth allwch chi ei wneud? Gallwch defnyddio'r syniad o wneud rhywbeth gwahanol. Mae hynny'n golygu bod yn fwy dewr."

Awgrymodd y gallai Cymru greu amgylchedd lle mae cwmnïau a phrifysgolion yn teimlo bod ganddynt yr adnoddau a'r rhyddid i wneud ymchwil gwahanol a chreadigol.

"Mae'n beth hir-dymor, ond os mae'n llwyddo, rydych chi 'nôl yn y ras."

Digwyddiad yn adeilad modern y Tramshed yng Nghaerdydd, gyda sawl person yn sefyll o amgylch bwrdd arddangos. Mae dau bwrdd gwyn gyda deunyddiau lliwgar ar eu pennau, a baner ar y chwith yn dangos testun “AI Quick Build” a logo Google. Mae un person yn y canol yn ysgwyd llaw â pherson arall ar y dde, tra bod dau berson arall yn edrych ar y bwrdd neu’n defnyddio dyfeisiau. Mae’r cefndir yn cynnwys ffenestri mawr, wal frics, a logo crwn melyn a du ar y wal.Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Yng Nghaerdydd fe wnaeth yr ysgrifennydd busnes, Peter Kyle gwrdd â busnesau lleol sydd wedi mabwysiadu AI

Tra bod pawb yn gallu cael mynediad at AI ar eu ffonau clyfar, mae busnesau yng Nghymru yn ceisio integreiddio'r dechnoleg i arbed amser a chynyddu cynhyrchiant.

Cynhaliodd Google ddigwyddiad AI yng Nghaerdydd gyda Llywodraeth y DU i annog cwmnïau i weld manteision y dechnoleg.

"Nid yw AI yn un peth penodol – gellir ei ddefnyddio mewn cymaint o sefyllfaoedd gwahanol," meddai'r ysgrifennydd busnes, Peter Kyle AS.

Dywedodd fod rhai busnesau sydd wedi mabwysiadu'r dechnoleg yn "gweithio ar setiau ffilm, yn yr amgylchedd byw... ac ar draws [sectorau sy'n] trawsnewid digidol".

"Os caiff [AI] ei ymgorffori ar draws yr economi, mae'n cael effaith drawsnewidiol – mae'n golygu bod mwy o'r tasgau diflas yn diflannu, ac mae'r broses o redeg busnes yn cael ei gyflymu."

Ychwanegodd y gallai cynnydd o 1% mewn cynhyrchiant busnesau bach greu gweithgarwch economaidd gwerth £240 biliwn.

Cefn gwlad gyda nifer o wartheg yn pori. Yn y cefndir, mae peilonau trydan mawr yn ymestyn i’r awyr, gyda cheblau’n rhedeg ar draws y llun. Mae’r awyr yn las golau gyda chymylau gwyn a golau haul cynnes yn taflu cysgodion hir ar y cae. Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r chwyldro yn neallusrwydd artiffisial yn codi cwestiynau am ein defnydd o ynni a'r effaith ar y tirwedd wrth geisio ehangu'r grid trydan

Mae parthau twf AI wedi'u cyhoeddi yng ngogledd a de Cymru yn ddiweddar, tra bod Cynllun AI Cymru, dolen allanol yn addo defnyddio AI i "yrru twf economaidd, gwella gwasanaethau cyhoeddus... ac arfogi pobl ledled Cymru â'r sgiliau i ffynnu".

Ond mae'r pŵer cyfrifiadurol sydd ei angen i brosesu a chynnal gwasanaethau AI yn gofyn am grid trydan nad yw ar gael ym mhob rhan o Gymru.

Mae protestiadau sylweddol wedi bod yn erbyn cynlluniau i gynyddu capasiti'r grid trydan yng nghanolbarth Cymru, oherwydd bwriad y gweithredwr i godi peilonau ar draws ardaloedd gwledig.

"Mae canolbarth Cymru yn cael ei than-wasanaethu'n gronig gan seilwaith grid modern," meddai Stuart George, prif weithredwr Green GEN Cymru.

Er gwaethaf gwrthwynebiad cryf, dywedodd Mr George fod ehangu'r grid yn hanfodol i ateb y galw presennol a'r galw yn y dyfodol.

"Mae cymaint mwy o fudd yn dod o foderneiddio'r grid.

"Pan edrychwch ar y dyfodol – cerbydau trydan, systemau gwresogi trydanol. Ar hyn o bryd, mae'n amhosibl i fusnesau ddatgarboneiddio a thyfu yng nghanolbarth Cymru."

Rhybuddiodd y gallai Cymru "golli allan" ar y ras AI os nad oes gan y wlad y seilwaith i ddenu canolfannau data ac ymchwil.

Llion Jones yn sefyll ar lwyfan gyda chefndir oren a phatrymau hecsagon du ar y wal. Mae’r person yn gwisgo crys â phatrwm llwyd tywyll a golau, a jîns glas tywyll gyda trainers gwyn. Mae’r llwyfan yn goch, ac mae’r enw “LLION JONES” wedi’i arddangos mewn llythrennau mawr ar y sgrin uwchben y siaradwr. 
Ffynhonnell y llun, TED AI
Disgrifiad o’r llun,

Tra bod AI yn ceisio plesio pob, mae'r ymatebion yn gallu bod yn "sycophantaidd," meddai Llion Jones

Er bod ymchwil Llion Jones yn canolbwyntio ar ddyfodol AI, mae ganddo argymhelliad ar gyfer y genhedlaeth bresennol o chatbots: "Maen nhw wedi dod yn rhy sycophantaidd."

Mae hyfforddiant modelau AI yn arwain at atebion sy'n plesio'r defnyddiwr.

"Yn anffodus, mae pobl yn hoffi clywed eu bod nhw'n iawn. Mae hyn yn golygu y gall llawer gael eu camarwain gan y ffaith y gallwch ddweud [wrth y chatbot AI] bron unrhyw beth a bydd yn dweud 'ie, rydych chi'n iawn, syniad gwych'.

"Felly mae angen i ni drwsio'r broblem honno – mae angen i ni greu AI sy'n gallu anghytuno â chi, ac sy'n gallu eich cywiro."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig