Cymru yn China: lluniau o'r arddangosfaCyhoeddwyd4 Mawrth 2013Disgrifiad o’r llun, Amgueddfa China Three Gorges Museum yn Chongqing lle bydd arddangosfa o wrthrychau o Gymru o 4 Mawrth i 30 Mehefin.Disgrifiad o’r llun, Mae'r arddangosfa'n gyflwyniad i Gymru a bydd yn cynnwys sawl wrthrych pwysig o gasgliadau Amgueddfa Cymru. Darganfuwyd Brigwrn Capel Garmon yn 1852 ger Capel Garmon, Conwy, ac fe'i ystyrir yn un o ddarnau pwysicaf gwaith haearn addurnol cynnar ym Mhrydain.Disgrifiad o’r llun, Eitem arall fydd yn ran o'r arddangosfa yw cwpan aur Castell Carn Dochan. Gwnaethpwyd y cwpan ym 1867 ar gyfer teulu'r Williams-Wynn o Riwabon yn Sir Ddinbych, gan ddefnyddio aur o'u gwaith aur eu hunain.Disgrifiad o’r llun, Ymhlith yr eitemau yn yr arddangosfa bydd torch o'r Oes Efydd a ganfuwyd yn Fferm Cefn, Llanwrthwl, Powys.Disgrifiad o’r llun, Mae'r darlun yma'n seiliedig ar gerdd Thomas Gray, The Bard.Disgrifiad o’r llun, Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys darnau sy'n dangos hen draddodiad Celtaidd Prydain a Chymru.Disgrifiad o’r llun, Mae Cestyll Cymru, fel Castell Cricieth yma, yn rhan bwysig 'r arddangosfa yn ogystal.Disgrifiad o’r llun, Rhoddwyd y blwch 'snuff' yma i'r Cymro HM Stanley gan y Frenhines Fictoria.Disgrifiad o’r llun, Mae treftadaeth diwydiannol Cymru hefyd yn rhan bwysig o'r arddangosfaDisgrifiad o’r llun, Bydd dresel Cymreig hefyd yn rhan o'r arddangosfa, gyda rhai o'r platiau yn dangos patrwm 'Willow" sy'n seiliedig at stori o China.