Cyswllt awyr arall o'r de i'r gogledd?
- Cyhoeddwyd
Mae maes awyr yn y gogledd-ddwyrain yn gobeithio cystadlu gyda'r gwasanaeth awyr presennol rhwng de a gogledd Cymru.
Er nad yw'r amserlen yn bendant hyd yma, mae Maes Awyr Caer/Penarlâg yn dweud y bydd adeilad terfynell newydd yn agor yn ystod haf 2013.
Dywedodd prif weithredwr y cwmni eu bod wedi trafod â rhai cwmnïau hedfan gyda'r bwriad o gynnig teithiau o'r gogledd-ddwyrain.
Er nad oes cytundeb ffurfiol wedi ei arwyddo hyd yma, deellir mai un o'r cwmnïau yw Citywing - sef y cwmni sy'n gyfrifol am y gwasanaeth presennol rhwng Y Fali ar Ynys Môn a Maes Awyr Caerdydd - gan sefydlu cyswllt awyr rhwng Penarlâg a'r brifddinas.
Yn ôl y prif weithredwr, Caroline Craft, y gobaith yw agor yr adeilad newydd rhywbryd yn yr haf gyda gwasanaeth awyrennau bychan yn dechrau ar deithiau newydd yn fuan wedi hynny.
Cymhorthdal?
Mae'r daith rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yn derbyn cymhorthdal o £800,000 y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru.
Pan ofynnwyd i Ms Craft a fyddai'n gwneud cais am gymorthdal tebyg i'r daith o'r gogledd-ddwyrain, dywedodd ei bod yn ystyried hynny o ddifrif.
Un sydd wedi cefnogi cynlluniau'r maes awyr i ehangu yw Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood.
"Rwy'n cefnogi'r cynlluniau yma ar gyfer Maes Awyr Penarlâg a'r cyswllt i Faes Awyr Caerdydd," meddai.
"Yn y gorffennol rwyf hefyd wedi galw am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i hyn, ond yr ateb a gefais oedd bod rheolau'r Undeb Ewropeaidd yn ffafrio Ynys Môn dros Benarlâg.
"Mae angen i ni baratoi'r cynllun busnes sy'n dangos bod y cynlluniau yn gynaliadwy, ac yna i Lywodraeth Cymru ailystyried ceisiadau am gefnogaeth ar sail hynny."
'Swyddi'
Dywedodd AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, Llŷr Huws Gruffydd: "Rydym yn rhagweld y bydd Penarlâg yn medru cynnig ystod o wasanaethau rheolaidd a siartr yn defnyddio awyrennau hyd at 50 sedd.
"Pe bai'n bosibl cynnig gwasanaethau rheolaidd i'r Alban, yr Iwerddon, Ynys Manaw a Chaerdydd ac yna ymlaen i orllewin Ewrop, gan greu swyddi a buddsoddiad yn y gogledd, yna byddai'n deg disgwyl i'r cyngor lleol gynnig cefnogaeth resymol.
"Ond dyw Plaid Cymru ddim o reidrwydd yn gweld yr angen am sybsidi cyhoeddus ar gyfer hedfan i Gaerdydd o Benarlâg. Byddwn o blaid cynnal y gwasanaeth o Gaergybi i Gaerdydd fel linc strategol ac yna buddsoddi unrhyw arian ychwanegol er mwyn gwella'r gwasanaeth trenau Gogledd-De.
"Mae'r trên presennol o'r gogledd-ddwyrain yn cymryd ychydig dros ddwy awr i gyrraedd canol Caerdydd ac felly pitw fyddai unrhyw arbedion amser wrth hedfan. Rydym am weld y gwasanaeth trên uniongyrchol yna'n gwella.
"Dylid buddsoddi yn unol â'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a dydi Penarlâg ddim yn rhan o'r cynllun yna."
Roedd AC y Democratiaid Rhyddfrydol dros y rhanbarth o'r un farn.
Dywedodd Aled Roberts nad yw'n cefnogi'r syniad y dylaid rhoi cymhorthdal ychwanegol ar gyfer gwasanaeth o Benarlâg i Gaerdydd.
"Fy marn bersonol yw y dylai unrhyw arian cyhoeddus gael ei wario ar wella cysylltiadau rheilffordd rhwng y gogledd a Chaerdydd."
Cefnogi
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgymryd â gwaith archwilio ariannol yn ymwneud â phryniant Maes Awyr Caerdydd.
"Byddai'n amhriodol felly i wneud sylw ar unrhyw deithiau damcaniaethol o'r maes awyr ar hyn o bryd.
"Fodd bynnag rydym yn cefnogi unrhyw symudiad i ddatblygu Maes Awyr Penarlâg."