Siart Amgen Rhys Mwyn 2025
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ers wythnosau, mae gwrandawyr rhaglen Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru wedi bod yn enwebu caneuon er mwyn i banel o arbenigwyr ddewis deg uchaf o draciau amgen 2025.
Roedd tri ar y panel dewis, sef Efa Thomas, Molly Palmer a Gareth Potter.
Yn 2024, CELAVI oedd yn rhif 1, gyda'r gân Cofia'r Enw. Ond pwy sydd wedi dod i'r brig yn y Siart Amgen eleni?
10. Ennill Yn Barod - Ani Glass

Fe wnaeth Ani Glass ryddhau y gân hon i ddathlu taith Cymru i bencampwriaeth Cwpan y Byd 2022. Dyna'r tro cyntaf i dîm pêl-droed Cymru gyrraedd Cwpan y Byd ers 1958.
Tybed a fydd Cymru'n ennill lle yn y bencampwriaeth yn 2026?
9. Popeth (DDIM) Yn Iawn - Taran

Band o Gaerdydd yw Taran. Fe wnaethon nhw ffurfio yn 2023 ar gyfer Tafwyl.
Enillodd y band wobr Record Fer Orau yng Ngwobrau'r Selar yn ôl ym mis Mawrth 2025.
Fe wnaeth y prif leisydd, Rose Datta, ennill ar raglen Y Llais ar S4C yn 2025, o dan arweiniad y gantores Aleighcia Scott.
- Cyhoeddwyd31 Mawrth
8. Syched Cas – Dewin

O fro y Preseli y daw Dewin. Maen nhw'n disgrifio eu cerddoriaeth fel "pop-dewinol."
Enillodd Jencyn a Lefi Gwobr Goffa Richard a Wyn (Ail Symudiad) ac maen nhw wedi bod yn gigio drwy'r haf yng ngwyliau gorllewin Cymru.
Cyn bo hir, byddan nhw'n mynd i'r stiwdio i recordio albwm.
7. Poen Yn Y Baltics - Hap a Damwain

Hap a Damwain ydi band o Fae Colwyn sy'n ysgrifennu caneuon 'pop a baledi arbrofol'. Mae Aled a Simon wedi bod yn perfformio gyda'i gilydd ers 2019.
Mae eu halbwm, Diwedd Hanes, allan ers mis Ionawr.
6. Llygaid Cwrw - Lleucu Non

Animeiddio mae Lleucu Non wrth ei gwaith, ond mae hi'n dweud bod cerddoriaeth yn cysylltu efo'r gwaith yna.
Mae cerddoriaeth yn helpu i ddeffro dychymyg a chreu gofod ar gyfer emosiynau neu syniadau iddi hi.
Dechreuodd ysgrifennu caneuon ei hun yn 2020, a'u rhyddhau yn 2024.
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024
5. Mabolgampau - Chwaer Fawr

Prosiect unigol Mari Morgan yw Chwaer Fawr.
Mae Mari wedi gweithio gyda bandiau fel Rogue Jones, Saron a Bitw yn y gorffennol.
Mabolgampau yw ei hail sengl.
4. Tyrchu - Don Leisure & Gruff Rhys

Mae'r trac hwn oddi ar yr albwm Tyrchu Sain.
Fe wnaeth Don Leisure greu yr albwm drwy fynd, neu dyrchu, drwy archif Recordiau Sain.
Mae sawl artist gan gynnwys Gruff Rhys yn ymddangos ar yr albwm.
3. Tristwch y Fenywod - Ferch Gyda'r Llygaid Du

Band gothig Cymraeg o Leeds yw Tristwch y Fenywod.
Maen nhw yn ceisio rhoi stamp eu hunain ar gerddoriaeth Gymraeg. Dywedon nhw wrth Cymru Fyw:
"Mae 'na elfennau clasurol mewn cerddoriaeth goth, pethau fel sain atmosfferig, y minor key ac effeithiau gwahanol sy'n creu sŵn seicadelig ac arallfydol."
2. Addo – Adwaith

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn llwyddiannus iawn i'r band o Gaerfyrddin sy'n dathlu degawd eleni.
Maen nhw wedi ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ddwywaith, wedi cael dros filiwn o ffrydiadau ar Spotify, ac wedi perfformio yn Glastonbury.
Fe wnaethon nhw gyhoeddi ym mis Awst eu bod nhw am gymryd seibiant amhenodol unwaith y daw gigs 2025 i ben.
1. Ethiopia Newydd - Geraint Jarman

Bu farw'r cerddor, bardd a chyfansoddwr Geraint Jarman yn mis Mawrth 2025. Roedd yn un o fawrion Cymru a'i ddylanwad yn eang.
Cafodd Ethiopia Newydd ei rhyddhau yn wreiddiol yn 1978.
- Cyhoeddwyd13 Mawrth
Geirfa
enwebu / to nominate
arbenigwyr / experts
dewis / to choose
traciau amgen / alternative tracks
dod i'r brig / come out on top
siart / chart
eleni / this year
rhyddhau / to release
pencampwriaeth / championship
ffurfio / to form
prif leisydd / main vocalist
ennill / win
arweiniad / leadership
cantores / singer
bro / region
disgrifio / to describe
pop dewinol / wizard pop
Gwobr Goffa / Memorial Prize
gwyliau / festivals
gorllewin / west
cyn bo hir / soon
arbrofol / experimental
animeiddio / to animate
cysylltu / connect
deffro / to wake
dychymyg / imagination
gofod / space
unigol / solo
y gorffennol / the past
mabolgampau / sport games
tyrchu / to dig through
ymddangos ar / to feature on
elfennau / elements
clasurol / classical
seicadelig / psychedelic
arallfydol / otherworldly
llwyddiannus / successful
degawd / decade
ffrydiadau / streams
seibiant / break
amhenodol / indefinite
cerddor / musician
bardd / poet
cyfansoddwr / composer
mawrion / greats
dylanwad / influence
yn wreiddiol / originally
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2024