Dod allan yn anneuaidd: 'Rhai capeli heb 'di acceptio fi gymaint'

Vex Vaughan
- Cyhoeddwyd
"Pryd o'n i'n ifanc yn mynd i'r capel roedd bob dim yn iawn, wedyn ar ôl i fi ddod allan fel non-binary dwi 'di teimlo fel bod capeli heb 'di rili acceptio fi gymaint."
Tydi bywyd heb fod yn hawdd am gyfnodau hir i Vex Vaughan, ond trwy'r cyfan mae ffydd wedi bod yn gysur.
Ond ers dod allan yn anneuaidd - ac yn defnyddio'r rhagenwau nhw/eu - mae'n teimlo bod rhai pobl yn llai parod i'w derbyn.
Fe gafodd Vex, sy'n 20, eu magu yng Nghricieth gan fodryb. Ond pan oedd Vex yn chwech oed bu farw eu modryb ac aeth i fyw gyda'u mam.
"Do'n i'm yn gwybod bod hi'n fam i fi tan i fi symud fewn efo hi," meddai mewn cyfweliad ar raglen arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C.
"Doedd o ddim yn rili amser hapus. Roedd Mam yn stryglo edrych ar ôl ni a pryd o'n i'n 15 'nath social services mynd â fi a chwiorydd fi fewn i ofal."

Vex fel babi ym mreichiau eu modryb
Roedd cyfnod yr arddegau yn anodd, meddai, gan fod blynyddoedd glasoed yn sialens gyda'r corff yn newid a Vex wedi sylwi ers yn ifanc bod eu rhywedd yn wahanol.
Doedd Vex ddim yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth, gan gynnwys gan rieni maeth Cristnogol.
"Doedda nhw ddim yn rili deall be' oedd bod yn non-binary," meddai. "Neshi drio esbonio, ac ateb nhw oedd 'God made man and woman, you can't be an inbetweener.'
"O'n i'n teimlo fel do'n i ddim yn ddigon da i neb - teimlo fel o'n i'n cael fy mhasio o gwmpas, doedd nhw ddim yn caru fi ac o'n i'n jest yn teimlo ar un pwynt 'I'm unloveable'."

Vex yn blentyn
Felly er lles iechyd meddwl fe benderfynodd adael a gofyn am gymorth gan elusen GISDA, sy'n darparu llety, cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc digartref neu fregus.
"Roedda nhw actually yn gwrando ar bob dim o'n i'n d'eud," meddai. "O'n i'n teimlo fel bod rhywun actually yn clywed fi am unwaith. Wnaeth nhw roid referral mewn i fi symud i'r hostel yn Caernarfon - o'n i'n 17 ac o'n i actually yn teimlo'n rhydd.
"Mae GISDA fel teulu - fel cymuned - y tro cynta' oedd pobl yn acceptio fi am fod yn fi a dwi mor ddiolchgar i gyd o'r staff a'r gwirfoddolwyr.
"Heb GISDA dwi'm yn gwybod lle faswn i rŵan - heb y cymorth, heb y bobl dwi di cwrdd, heb y profiadau."
'Caru pobl fel mae Duw yn caru ni'
Mae Vex yn rhan o gyfres ddogfen GISDA: Drws i'r Digartre ar S4C ac yn cael eu cyfweld ar raglen arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol.
Yn y rhaglen mae'n egluro sut dechreuodd fynd i'r capel yn chwech oed gyda ffrind a mwynhau bod yn "rhan o deulu".
Daeth ffydd yn fwy canolog i'w bywyd wrth fynd yn hŷn, ond bod eu rhywedd wedi arwain at newid agwedd ymysg rhai pobl.
"Mae (ffydd) yn rhoi cryfder weithia' - pryd o'n i'n teimlo'n wael, teimlo'n unig ro'n i'n gwybod roedd Duw yna, fel cysur mewn ffordd," meddai.
"Pryd o'n i'n ifanc yn mynd i'r capel roedd bob dim yn iawn, wedyn ar ôl i fi ddod allan fel non-binary dwi 'di teimlo fel dydi capeli heb 'di rili acceptio fi gymaint.
"Dwi'n newid capel bob hyn a hyn oherwydd dwi'n ffeindio pan mae pobl yn ffeindio allan ma' nhw'n gallu bod yn eitha' sur tuag ata fi a dwi ddim yn teimlo croeso dim mwy, felly ma'n eitha' anodd ffeindio capel fedra i fynd i sy'n agos.
"Dwi'n teimlo mai rôl Cristion ydi i garu pobl fel mae Duw yn caru ni ond trwy'r capel dwi'n ffeindio mae lot o bobl yn anghofio'r neges yna - y neges fwyaf pwysig yn fy marn i.
"Mae pobl yn y capel yn gallu bod yn eitha judgemental weithia' pan dydyn nhw ddim yn dallt rhywbeth. Mae angen cofio'r rheswm 'da ni yma ar y byd yma ydi i rannu neges Duw a charu pobl fel mae Duw yn caru ni."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2024