Lluniau: Gŵyl Elvis Porthcawl 2025

Pobl wedi gwisgo fyny fel Elvis
Disgrifiad o’r llun,

Roedd miloedd o ddynwaredwyr Elvis ym Mhorthcawl dros y penwythnos

  • Cyhoeddwyd

Roedd cyffro ym Mhorthcawl dros y penwythnos, wrth i Ŵyl Elvis ddychwelyd eto eleni.

Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal yn flynyddol ers 2004 ac felly roeddent yn dathlu 21 mlynedd eleni.

Roedd miloedd o ddynwaredwyr Elvis yno yn perfformio sioeau ac yn diddanu gweddill y dorf o 26 i 28 Medi.

Dyma'r dathliad o Elvis mwyaf yn Ewrop.

Pobl yn yfed
Disgrifiad o’r llun,

Y merched yn mynd i hwyl yr ŵyl

Pobl yn mwynhau
Pobl yn mwynhau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd sioeau yn cael eu perfformio gan ddynwaredwyr Elvis yno

Elvis ar y llwyfan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y dathliadau yn cynnwys tua 50 o artistiaid teyrnged Elvis a 200 o sioeau dros dridiau

Pynciau cysylltiedig