Y flwyddyn waethaf i mi ei gweld o ran gwenwyno mes - milfeddyg

Mae mes yn wenwynig i nifer o anifeiliaid gan gynnwys defaid, gwartheg, ceffylau a chŵn
- Cyhoeddwyd
Ar ôl i fferm ger Y Bala golli dros 30 o ddefaid yn sgil gwenwyno gan fes, mae milfeddyg yn dweud mai dyma'r flwyddyn waethaf iddo ei gweld o ran achosion o'r fath.
Ar raglen y Post Prynhawn, dywedodd Iwan Parry o Ddolgellau ei fod wedi gweld achosion "dirifedi a cholledion enfawr" ar sawl fferm yn yr ardal.
Mae mes yn cynnwys cyfansoddion organig sy'n hynod wenwynig i ddefaid os ydyn nhw'n llyncu llawer ohonyn nhw.
"Dwi'n meddwl byddai pawb sydd wedi bod allan i gerdded wedi gweld nifer y mes fel carped ar ddaear - dwi ddim yn gallu cofio'r niferoedd yma," meddai.
- Cyhoeddwyd23 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Roedd Mr Parry yn ymateb ar ôl i Geraint Davies, sy'n ffermio Fedw Arian Uchaf ger Y Bala, golli 34 o ddefaid wedi iddyn nhw gael eu gwenwyno gan fes.
Mae Mr Davies wedi dechrau symud ei ddefaid i dir uwch lle nad oes yna goed derw - ond mae'n dweud bod y golled gwerth dros £5,000 yn un anferth i'r busnes.
Mae'n galw bellach ar i ffermwyr fod ar eu gwyliadwriaeth am achosion o'r fath.
Defaid 'yn mynd yn gaeth i fes'
Esboniodd Iwan Parry ei bod yn amlwg fod mes yn fwy o broblem eleni, a bod effaith hynny ar ffermydd wedi bod yn amlwg.
"Mae'r coed derw yn gorlwytho o ffrwyth, mae'r fesen i'w weld ac mae gwenwyn mes o'u bwyta nhw wedi bod yn amlwg ers pythefnos, tair wythnos," meddai.
"Ond yn ystod y 10 diwrnod diwethaf 'ma, 'da ni wedi gweld achosion dirifedi a cholledion enfawr ar rhai ffermydd - yn cynnwys colli defaid a cholli gwartheg.
"Mae'r gwenwyn yn y fesen yn effeithio ar yr aren yn benodol, ac wrth i'r aren fethu gweithio yn effeithiol yna mae hwnna'n gwenwyno'r corff, 'da ni'n gweld tail du, dydyn nhw methu bwyta ac yn anffodus mae marwolaeth yn dilyn.
"Yn eithaf eironig, mae'r ddafad neu'r fuwch yn mynd yn gaeth i fes, gwelwch chi nhw'n cerdded trwy bwyd maethlon i fynd i fôn y goeden dderwen er mwyn chwilio'n benodol am y fesen."

Bu farw 34 o ddefaid wedi iddyn nhw fwyta mes ar fferm Geraint Davies ger Y Bala
Ychwanegodd Mr Parry fod blynyddoedd ble mae mwy o fes na'r arfer yn digwydd bob pump i 10 mlynedd yn y gorffennol.
Ond awgrymodd fod hyn wedi dechrau digwydd yn amlach, ac yn gynharach yn y flwyddyn hefyd.
"Un peth sy'n ddiddorol ydi bod y blynyddoedd yma'n dod yn amlach - dwy flynedd 'nôl gawsom ni golledion efo mes - ac yn sicr mae o'n digwydd yn gynharach yn y flwyddyn," esboniodd.
"Pan o'n i'n cychwyn yn y 1980au roedd o'n nes at ganol Hydref pan odda' ni'n gweld y colledion yn dod."
Dywedodd mai dyma'r cyfnod gwaethaf iddo ei weld o ran achosion o wenwyno ers iddo ddechrau yn y swydd.
"Dwi ddim yn gallu cofio'r niferoedd yma, ac yn sicr ma'r colledion - ma' gennym ni achosion lle mae 25 dafad wedi marw mewn sawl fferm, a nifer o fuchod hefyd.
"Mae hi'n flwyddyn ddrwg, a dwi'n bryderus ei fod o'n digwydd yn amlach o bosib."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.