Dau awdurdod lleol yng ngogledd Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Dyfed Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dyfed Edwards y byddai cael dau awdurdod lleol yn y gogledd yn golygu y gellid arbed arian tra'n cynnal gwasanaethau "o fewn pellter rhesymol i bobl."

Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi dweud y dylid cael dau awdurdod lleol yng ngogledd Cymru yn hytrach na'r chwech presennol.

Dywedodd Dyfed Edwards bod angen ateb "radical" er mwyn gwneud arbedion ariannol mawr, a bod hynny, yn ei farn ef, yn golygu ail-drefnu llywodraeth leol.

"Mae gennym 22 o gynghorau ar hyn o bryd... Mae hynny'n golygu bod gennym 22 o adrannau addysg, 22 o adrannau gwasanaethau cymdeithasol, priffyrdd ac yn y blaen.

"Mae gennym ni hefyd ers 1996, y tro diwethaf y cafodd llywodraeth leol ei hail-drefnu, Gynulliad Cenedlaethol, sy'n darparu fframwaith polisi.

"Fe allwn ni nawr weithio'n effeithiol o fewn hynny os oes gennym ni lai o awdurdodau lleol, wedi eu trefnu ar sail is-ranbarthol.

"Dwi wedi dadlau ers llawer dydd am ail-drefnu awdurdodau lleol, a chael dau yng ngogledd Cymru, un yn y gogledd-orllewin ac un yn y gogledd-ddwyrain."

'Parchu barn'

Dywedodd Aled Roberts, Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol yn y gogledd a chyn arweinydd Cyngor Wrecsam: "Dwi wastad yn parchu barn Dyfed.

"Mae 'na beryg i ni lithro i mewn i drefniadau lle mae 'na ddiffyg democratiaeth - mae hynny bendant yn wir o fewn y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd yn y gogledd.

"Ond mae 'na adolygiad ar hyn o bryd i mewn i wasanaethau addysg felly dwi ddim yn credu bod yr amseriad yn gywir.

"Ond os ydyn ni'n mynd i feddwl am ail-strwythuro efallai dylen ni edrych i gael un cyngor. 'Dan ni'n sôn am boblogaeth o ryw 700,000".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol