Mudiad iaith: Amddiffyn y comisiynydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi amddiffyn Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yn dilyn y drafodaeth ynghylch y safonau a wrthodwyd gan y gweinidog â chyfrifoldeb dros y Gymraeg fis diwethaf.
Yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd Sian Howys fod yr helynt dros y safonau yn codi cwestiynau am hygrededd y gweinidog, yn hytrach na chodi cwestiynau ynghylch hygrededd y comisiynydd.
"Mae'r comisiynydd yn ein barn ni wedi cymryd ei chyfrifoldeb hi o ddifri i greu set o safonau. Yn ein barn ni mae angen eu cryfhau nhw, yn hytrach na'u gwanhau.
"'Da ni'n meddwl mai cam gwag ydi unrhyw ymgais i danseilio'r comisiynydd.
"Mae eisiau swyddfa a swyddogaeth comisiynydd ar y Gymraeg... Mae 'n ddyddiau cynnar iawn, ac os ydy hi wedi llwyddo i roi'r gweinidog on the spot a chynhyrchu safonau sydd yn rhy heriol iddo fe, bydden ni'n dweud ei bod hi'n gwneud ei gwaith yn llwyddiannus iawn."
Ddydd Mercher, dywedodd Heini Gruffudd, cadeirydd y mudiad Dyfodol I'r Iaith: "Dychmygwch am eiliad fod Comisiynydd Plant neu Gomisiynydd yr Henoed wedi rhoi argymhellion i'r llywodraeth a bod y cyfan wedi ei wrthod.
"Byddai hynny yn bendant yn gofyn cwestiwn i chi'ch hun am eich safle yn y swydd."
'Siom'
Dywedodd Sian Howys fod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw am gyfarfod brys gyda'r gweinidog, oherwydd eu siom gyda'i ymateb i safonau drafft Comisiynydd y Gymraeg.
Roedd y gymdeithas, meddai, yn pryderu bod y gweinidog wedi rhoi gormod o glust i'r cwmniau oedd yn gwrthwynebu cael eu cynnwys yn y mesur.
"Ry' ni am weld y cwmniau yma yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifri'... yr her ddybryd yw sicrhau gwasanaethau yn Gymraeg, nid i wanhau'r safonau iaith."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2013