Cyngor: Gwahardd prif weithredwr
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weithredwr Cyngor Caerffili wedi ei wahardd o'i waith.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy'n golygu ymchwiliad.
"Ar ôl trafod ag arweinydd y cyngor, mae'r prif weithredwr wedi cytuno i gael ei wahardd o'i ddyletswyddau wrth i'r ymchwiliad barhau."
Yr wythnos hon dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru fod y broses arweiniodd at roi codiad cyflog o £27,000 i Anthony O'Sullivan yn "anghyfreithlon am sawl rheswm."
Daeth i'r amlwg na hysbysebodd Cyngor Caerffili gyfarfod oedd yn penderfynu cyflog Mr O'Sullivan ac uwchswyddogion eraill.
Dywedodd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru fod cofnodion y cyfarfod yn fyr iawn ac nad oedd "cofnod digonol o'r drafodaeth."
Gofynnwyd i Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ymchwilio yn sgil yr adroddiad.
Yn ôl Cyngor Caerffili, "camgymeriad dynol" arweiniodd at y camgymeriadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2013