Cwest: 'Perygl i bobl ar draeth'
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed y gallai twristiaid ar draeth fod wedi bod mewn perygl y diwrnod y cafodd milwr ei saethu'n farw.
Bu farw Michael Maguire ar safle hyfforddi Castlemartin wedi i beiriant saethu danio 0.6 o filltiroedd i ffwrdd.
Bwled grwydr darodd ei ben.
Clywodd cwest yng Nghaerdydd y gallai'r bwledi fod wedi cyrraedd traeth Freshwater West.
Nid oedd Maguire o Swydd Corc yn gwisgo helmed.
Roedd y milwr, aelod o Fataliwn Cyntaf y Gatrawd Frenhinol Wyddelig, mewn cae lle oedd milwyr yn arfer bwyta.
Dywedodd yr arbenigwr arfau, Capten Gary Palmer, fod milwyr yr oedd Is-gapten Jonathan Price yn eu gorchymyn wedi saethu y tu allan i "ardal saff".
Ddim yn beryglus
Nod yr ardal oedd sicrhau nad oedd bwledi'n beryglus i unrhyw filwr arall ar y safle hyfforddi.
Clywodd y cwest nad oedd camau digonol wedi eu cymryd y diwrnod dan sylw.
Dywedodd Capten Palmer y gallai'r peiriant saethu daro unrhywun o fewn 1.8 o filltiroedd neu 2.9 o gilomedrau.
Dywedodd y crwner, Mary Hassall: "Mae tua 2.5 o gilomedrau rhwng Dinbych y Pysgod a'r traeth ... felly gallai bwled gyrraedd traeth Freshwater."
Atebodd y capten: "Gallai, os nad oedd yn taro unrhywbeth ar y ffordd."
Mae'r cwest yn parhau.