Deg pennaeth yn sector cyhoeddus Cymru yn ennill cyfanswm cyflog o £1.7m
- Cyhoeddwyd
Mae deg o benaethiaid y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ennill cyfanswm cyflog o £1.7 miliwn yn ôl ymchwiliad gan BBC Cymru.
Mae'r wyth o'r rhain yn ennill mwy na'r Prif Weinidog David Cameron.
Ar adeg pan mae'r rhan fwyaf o weithwyr y sector cyhoeddus wedi gweld eu cyflogau yn cael eu rhewi, mae rhai penaethiaid wedi gweld cynnydd yn eu pecynnau cyflog.
Yn ddiweddar fe wnaeth Cyngor Caerffili benderfynu cynyddu cyflogau penaethiaid.
Yr wythnos diwethaf cafwyd adroddiad beirniadol am hyn gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Cyfiawnhad
Dywed yr adroddiad fod codiad cyflog o £25,000 i'r prif weithredwr Anthony O'Sullivan yn anghyfreithiol, a hefyd codiadau i rai o'r penaethiaid eraill.
Dywed yr Aelod Cynulliad Ceidwadwr Janet Finch-Saunders fod angen i'r Gweinidog Llywodraeth Leol Carl Sergeant ymyrryd.
"Rwyf wedi gofyn a gofyn iddo fynd i'r afael â'r sefyllfa ac i asesu lefelau cyflogau, ac a oes modd iddo eu cyfiawnhau," meddai Mrs Finch-Saunders, llefarydd y Ceidwadwyr ar Lywodraeth Leol.
Dywed Llywodraeth Cymru fod cyflogau penaethiaid yn fater i'r cynghorau lleol.
Dywed Laura Tenison, pennaeth cwmni JoJo Maman Bébé, fod angen i benaethiaid y sector gyhoeddus fod yn fwy carcus.
Mae gweithwyr JoJo, gan gynnwys Ms Tenison, wedi gweld eu cyflogau yn cael eu rhewi.
"Rwyf yn ceisio arwain drwy ddangos esiampl, ac mae hynny'n wir am y cyfarwyddwyr eraill.
"Os ydan ni'n rhewi cyflogau, yna mae'n rhaid rhewi cyflogau pawb.
"Fyddwn ni ddim yn meddwl gwneud unrhyw beth arall.
"Dwi ddim yn credu fod angen i unrhyw un ennill mwy na £150,000 y flwyddyn."
Mae staff yng Ngwynedd a Caerffili eisoes wedi cynnal protestiadau oherwydd penderfyniad i gynyddu cyflogau penaethiaid.
Streic
Yr wythnos nesa' mae disgwyl i weision sifil Llywodraeth Cymru gynnal streic.
Mae undeb PCS wedi galw'r streic er mwyn cefnogi galwad am gynnydd o 5% yng nghyflogau eu haelodau.
Dywed y cynghorydd Russell Goodway, sy'n gyfrifol am gyllid ar Gyngor Caerdydd, ei fod o'n credu y dylai cyflogau penaethiaid gael ei benderfynu ar lefel cenedlaethol a ddim gan gynghorau lleol.
"Rydym yn ceisio dal i fyny gyda'n gilydd drwy'r amser, ac mae pobl yn symud a chael cyflog uwch.
"Yna er mwyn llenwi'r swydd yna mae'n rhaid i chi gynnig mwy o gyflog.
"Ac mae'r stori yn cael ei hailadrodd," meddai'r Cynghorydd Goodway.
Bydd rhaglen Week In Week Out yn cael ei darlledu ar BBC1 Wales am 10.35pm dydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2013