Cofnod ddigidol o bapurau newydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cyfraith Hywel DdaFfynhonnell y llun, Sotherby's
Disgrifiad o’r llun,

Bydd llyfrau, llawysgrifau, archifau, mapiau, lluniau a ffotograffau ynghyd â phapurau newyddion a chyfnodolion ar gael yn ddigidol

Bydd modd gweld dros filiwn o dudalennau o hanes Cymru hyd at 1910 am ddim ar y we yn y dyfodol.

Ymhlith yr adnoddau, bydd archif o bapurau newydd yn cynnwys cyhoeddiadau lleol fel y Merthyr Times, Y Gwladgarwr a'r Prestatyn Weekly.

Yn ystod y flwyddyn, bydd papurau fel y Western Mail hefyd i'w gweld.

Gyda'r dechnoleg ddiweddara' fe fydd hi'n bosib i ddefnyddwyr chwilio am eiriau penodol a dod o hyd i gynnwys penodol yn gyflym.

Ariannwyd y cynllun trwy gymorth y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Meddai Andrew Green, o'r Llyfrgell Genedlaethol:

"Bydd defnydd uchelgeisiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru o dechnoleg yn ymestyn yn helaeth ddefnydd a gwerth y cofnod ysblennydd hwn o wybodaeth.

"Bydd trosi'r fformat papur gwreiddiol i ffurf ddigidol, a sicrhau ei fod ar gael am ddim i'w ddefnyddio ar ei gwefan, yn trawsnewid y ffordd mae pobl yn dysgu am ac ymchwilio hanes, diwylliant a hunaniaeth Cymru."

'Dolen gyswllt'

Dywedodd Huw Lewis AC, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth:

"Rwy'n falch dros ben fod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu £2 filiwn i gefnogi'r prosiect pwysig yma.

"Hwn fydd y casgliad mwyaf o destun yn ymwneud â Chymru y gellir chwilio drwyddo, ac fe fydd yn cyfrannu'n sylweddol at weledigaeth y Llyfrgell Genedlaethol o ddigido cof printiedig Cymru yn ei gyfanrwydd."

Disgrifiad,

Kate Crockett fu'n holi Arwel Jones o'r Llyfrgell Genedlaethol ar y Post Cynta fore Mercher

Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

"Creu dolen gyswllt rhwng ein gorffennol a'n dyfodol yw diben y prosiect uchelgeisiol yma, a diogelu'r ffordd yr adroddwyd hanes ein cenedl yn y wasg ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Bydd pobl o bedwar ban byd yn gallu chwilio am eiriau, ymadroddion a dyddiadau a dod o hyd i hanesion di-rif, dim ond drwy bwyso botwm. Fel arall, dim ond mewn archifdai y byddai'r deunyddiau hyn ar gael."

Wrth ddatgelu'r cynlluniau gwerth £2.2 miliwn ddydd Mercher, roedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd yn lansio cynllun digoDO, i helpu busnesau yn y diwydiannau creadigol.

Nod y cynllun hwnnw yw helpu busnesau, yn enwedig yn y gorllewin a'r cymoedd, i fanteisio ar y storfa o adnoddau digidol dwyieithog yn ymwneud â diwylliant a threftadaeth Cymru.

Bydd modd i fusnesau - yn arbennig busnesau bach a chanolig ym maes teledu, cerddoriaeth, ffilm a'r cyfryngau newydd - gael hyfforddiant gan arbenigwyr yn y maes i lunio cynnyrch, gwasanaethau a thechnolegau newydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol