Cynllun morgeisi 'yn rhy hwyr'
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod y gyllideb mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cynllun ar wahân i warantu morgeisi yn cael ei gyflwyno ar Fehefin 3.
Dan gynllun NewBuy Cymru bydd pobl sydd am brynu tai yn gallu manteisio ar forgeisi benthyciad uchel o'i gymharu â gwerth y cartref.
Bydd y cynllun yn agored i bawb sy'n prynu cartrefi neu fflatiau newydd sy'n werth hyd at £250,000. Bydd prynwyr yn cyfrannu blaendal o 5%.
'Help llaw'
Dywedodd Gweinidog Tai ac Adfywio Cymru, Carl Sargeant: "Mae NewBuy Cymru yn newyddion da nid yn unig i economi Cymru ond hefyd i deuluoedd ac i unigolion ym mhob cwr o Gymru.
"Rydyn ni i gyd yn gwybod am yr anawsterau mae pobl yn eu hwynebu wrth brynu eu cartref cyntaf neu wrth ddringo'r ysgol dai.
"Bydd NewBuy Cymru, sy'n gynllun gwarant morgais, yn rhoi help llaw i bobl sydd wedi bod yn cynilo o ddifrif er mwyn rhoi blaendal ar gartref newydd.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y cynllun, drwy gyfrannu at symbylu gweithgarwch yn y sector tai, yn helpu i fynd i'r afael â thlodi ac yn hwb dderbyniol iawn i'n heconomi."
'Agor y farchnad'
Ychwanegodd Stewart Baseley, Cadeirydd Gweithredol y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi: "Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae prynu cartref yn rhywbeth sydd wedi bod y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl yng Nghymru, a hynny am fod angen blaendal mawr er mwyn cael morgais.
"Bydd NewBuy yn caniatáu i bobl prynu tŷ â blaendal mwy realistig o 5%, gan wireddu'r freuddwyd o fod yn berchen ar eu cartref eu hunain.
"Bydd yn fodd hefyd i agor y farchnad ac yn caniatáu i adeiladwyr godi rhagor o gartrefi, gan greu swyddi a rhoi hwb i economi Cymru."
Amau
Ond dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar Dai, Peter Black, ei fod yn amau ymroddiad Llywodraeth Cymru i gynorthwyo'r rhai sy'n prynu eu cartre' cyntaf.
Honnodd mai ei blaid ef orfododd y cynllun ar y llywodraeth fel rhan o'r cytundeb i basio cyllideb Cymru drwy'r Cynulliad.
"Mae'r cynllun yn adlewyrchu rhai sy'n bodoli yn Lloegr ac mewn nifer o gynghorau Cymru ac eto mae wedi cymryd dros flwyddyn i'r llywodraeth gytuno dyddiad cyflwyno.
"Mae cynllun NewBuy yn un da yn yr ystyr y bydd yn cyfyngu ar yr ernes fydd angen i brynu cartref newydd i 5% am 3,000 o aelwydydd ac yn gymorth i adeiladwyr werth eu tai.
"Ond mae'r oedi cyn ei lansio wedi golygu bod y rhai sy'n ceisio mynd ar yr ysgol eiddo a'r rhai sydd am godi cartrefi newydd heb gefnogaeth.
"Does dim rhyfedd fod y farchnad dai yng Nghymru mor araf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013