Ehangu gorwelion
- Cyhoeddwyd
Mae papur bro Caerdydd y Dinesydd yn bwriadu cymryd cam technolegol drwy gyhoeddi fersiwn ar gyfer y we.
Bydd y cynllun, sydd wedi ei ddisgrifio fel "hwb cymunedol i'r brifddinas", yn ffynhonnell o wybodaeth berthnasol ar gyfer dinasyddion Caerdydd.
Cynllun ar y cyd yw hwn fydd yn gweld staff y Dinesydd yn cyd-weithio gyda Prifysgol Caerdydd a Menter Iaith Caerdydd.
Dywedodd Sian Lewis o'r fenter iaith mai'r gobaith yw bydd y cynllun yn denu "cynulleidfa newydd" - ond nid ar draul y ffyddloniaid.
"Nid disodli'r Dinesydd mewn unrhyw ffordd yw'r bwriad yma ond codi proffil y papur bro.
"Y gobaith efo hwn yw tynnu gwybodaeth mas o beth sy'n cael ei gynnwys ar y we a chynnwys hwnna hefyd yn y papur printiedig."
Un fantais fawr dros ddarparu gwasanaethau dros y we yw y bydd posib ei ddiweddaru'n ddyddiol, tra mae fersiwn print y Dinesydd yn un misol.
"Cyfarfod cyffrous"
Mae'r cyhoeddiad yn dilyn beth gafodd ei ddisgrifio fel "cyfarfod cyffrous" nos Lun.
Yn bresennol roedd "nifer o unigolion sy'n arbenigo ac ymddiddori yn y maes digidol" yn ôl Menter Iaith Caerdydd.
Y cam nesaf yn y cynllun fydd penodi tîm golygyddol a cheisio sicrhau cyfranwyr.