Caerdydd: Llwyddiannau'r gorffennol

  • Cyhoeddwyd
Fred Keenor (de) yn ysgwyd llaw gyda chapten Arsenal Tom Parker (chwith) cyn i'r Adar Gleision ennill Cwpan FA lloegr yn 1927Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fred Keenor (de) yn ysgwyd llaw gyda chapten Arsenal Tom Parker (chwith) cyn i'r Adar Gleision ennill Cwpan FA Lloegr yn 1927

Hwn yw'r pedwerydd tro i'r Adar Gleision chware ym mhrif gynghrair Lloegr ar ôl cael eu dyrchafu ym 1921, 1952 a 1960.

Ond ni fydd y garfan bresennol am efelychu'r timau wnaeth ddisgyn i'r ail adran yn 1929, 1957 a 1962.

Ond mae gan y tîm presennol gyfle i ennill y blaen ar eu rhagflaenwyr am nad enillodd yr un o'r timau hynny Bencampwriaeth Ail Adran y Gynghrair.

Mae llwyddiant y tîm presennol yn hel atgofion am lwyddiannau eraill y clwb ers iddynt gael eu sefydlu yn 1899.

Ail yn yr Adran Gyntaf 1923-24.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Caerdydd ar frig yr Adran Gyntaf gyda dim ond tair gêm o'r tymor yn weddill

Methodd Caerdydd ag ennill Pencampwriaeth Prif Adran Lloegr o'r maint lleiaf erioed pan ddaethon nhw'n ail i Huddersfield ar gyfartaledd goliau o 0.024 ar ddiwedd tymor 1923-24.

Ond fe fyddai'r Adar Gleision wedi ennill y Bencampwriaeth pe baen nhw wedi curo Birmingham oddi cartref yn hytrach na chael gêm gyfartal yng ngêm ola'r tymor.

Rownd Derfynol Cwpan FA 1925.

Disgrifiad o’r llun,

Fred Keenor oedd capten yr Adar Gleision yn rowndiau terfynol Cwpan yr FA yn 1925 a 1927

Roedd pedwar Cymro yn y tîm wnaeth golli i gôl gan Fred Tunstall ar ôl hanner awr o'r gêm derfynol yn erbyn Sheffield United yn Wembley ar Ebrill 25 1925.

Y pedwar oedd y capten, Fred Keenor, Willie Davies, Harry Beadles a Jack Evans.

Ennill Cwpan FA 1927.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llithrodd y bêl drwy ddwylo Lewis, o dan ei gorff a dros y llinell

Fe wnaeth Cwpan yr FA adael Lloegr am yr unig dro wedi i Gaerdydd drechu Arsenal yn y rownd derfynol yn Stadiwm Wembley ar Ebrill 23 1927.

Wedi gêm llawn tensiwn daeth unig gôl yr ornest gyda chwarter awr yn weddill.

Cafodd ergyd yr Albanwr Hughie Ferguson ei arbed gan golwr Arsenal, y Cymro, Dan Lewis.

Ond rhywsut llithrodd y bêl drwy ddwylo Lewis, o dan ei gorff a thros y llinell.

Roedd y capten, Fred Keenor, wedi mynnu y byddai Caerdydd yn dychwelyd i Wembley ac yn ennill y cwpan ar ôl iddynt golli ddwy flynedd ynghynt. Ac felly y bu.

Rownd Gyn-Derfynol Cwpan Enillwyr Cwpan Ewrop 1967-68.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd John Toshack yn rhan o'r tîm wnaeth herio Hamburg yn 1968

Daeth Caerdydd o fewn trwch blewyn o gyrraedd Rownd Derfynol Cwpan Enillwyr Cwpan Ewrop yn 1968 gan golli i Hamburg SV o'r Almaen 4-3 ar ôl dau gymal.

Curodd yr Adar Gleision Shamrock Rovers, NAC Breda, a Torpedo Moscow cyn herio un o dimau gorau'r Almaen, oedd yn cynnwys un o ymosodwyr mwyaf enwog Gorllewin yr Almaen, Uwe Seeler, wnaeth sgorio 43 gôl mewn 72 gêm dros ei wlad.

Cafodd y cymal cyntaf ei chwarae yn y Volksparkstadion ar Ebrill 24.

Roedd Caerdydd ar y blaen tan hanner ffordd drwy'r ail hanner ar ôl i Norman Dean guro golwr Hamburg, Ankos Oezcan gyda'i ergyd ar ôl pedair munud.

Ond peniodd Helmut Sandeman i'r gôl o gic gornel i ddod â Hamburg yn gyfartal wedi 69 munud.

Cafodd yr ail gymal ei chwarae o flaen torf o dros 43,000 o bobl ym Mharc Ninian ar Fai 1.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen yn dilyn gôl gan Dean ar ôl 10 munud dim ond i'r ymwelwyr ddod yn gyfartal drwy F-J Hoenig bum munud yn ddiweddarach.

Aeth Hamburg ar y blaen pan sgoriodd Seeler ar ôl 56 munud ond cododd gobeithion Caerdydd pan sgoriodd Brian Harris gyda 12 munud o'r gêm yn weddill.

Ond wrth i Gaerdydd bwyso am y gôl i ennill yr ornest rhwydodd Hoenig am yr eildro ym munud ola'r gêm i chwalu gobeithion yr Adar Gleision.

Rownd Go-Gyn-Derfynol Cwpan Enillwyr Cwpan Ewrop 1970-71.

Disgrifiad o’r llun,

Brian Clark, fu farw yn 2010, sgoriodd unig gôl y gêm yn erbyn Real Madrid

Sgoriodd Brian Clarke unig gôl y cymal cyntaf yn erbyn Real Madrid, un o glybiau mwyaf llwyddiannus Ewrop o flaen torf o 47,000 o bobl ar Fawrth 10 1971.

Rhwydodd Clarke gyda'i ben ar ôl 31 munud o'r gêm.

Ond collodd yr Adar Gleision yr ail gymal 2-0 yn y Bernabeu bythefnos yn ddiweddarach yn dilyn goliau gan Velasquez ar ôl 50 munud a Fleitas funud yn ddiweddarach.

Rownd Derfynol Cwpan FA 2008

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gôl gan Gaerdydd ei gwahardd toc cyn hanner amser

Daeth breuddwyd Caerdydd o efelychu camp anfarwolion y tîm o 1927 i ben wrth i gôl Kanu ennill Cwpan yr FA i Portsmouth yn Wembley ar Fai 17 2008.

Camgymeriad golwr Caerdydd Peter Enckelman roddodd y gôl ar blât i ymosodwr Portsmouth saith munud cyn diwedd yr hanner cyntaf.

Rownd Derfynol Cwpan y Gynghrair 2012

Disgrifiad o’r llun,

Ben Turner sgoriodd ail gôl Caerdydd

Fe wnaeth Caerdydd golli o giciau o'r smotyn yn rownd derfynol ddramatig iawn yn erbyn Lerpwl yng Nghwpan y Gynghrair yn Wembley ar Chwefror 26 2012.

Aeth y gêm yr holl ffordd i giciau o'r smotyn gydag Anthony Gerrard yn methu gyda'r cic allweddol

Caerdydd aeth ar y blaen ar ôl 18 munud wedi i Joe Mason rwydo yn gelfydd o wyth llaeth.

Daeth Lerpwl yn gyfartal ar ôl 59 munud pan ergydiodd Martin Skrtel heibio Tom Heaton.

Lerpwl oedd yn edrych yn fwyaf peryglus yn yr hanner awr ychwanegol a sgoriodd eilydd y Cochion Dirk Kuyt wedi 108 munud.

Ond ymatebodd yr Adar Gleision yn dda cyn i Ben Turner rwydo wedi 117 munud.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol