Caerdydd 3-0 Nottingham Forest
- Cyhoeddwyd
Caerdydd 3-0 Nottingham Forest
Ar ôl baglu yn erbyn Barnsley ganol wythnos fe ddaeth cyfle i Gaerdydd ail-afael yn y cyfle i ennill dyrchafiad wrth groesawu Nottingham Forest i Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.
Roedd angen buddugoliaeth yn sicr, ac fe aeth i dynasyddion ar y blaen wedi 26 munud.
Roedd cic rydd Craig Bellamy yn un dda, ond roedd amddiffyn yr ymwelwyr yn llac hefyd wrth ganiatau i Heidar Helguson benio i'r rhwyd heb sialens.
Fe wellodd cyfle Caerdydd i ddal eu gafael ar y fantais cyn yr egwyl pan welodd Darius Henderson gerdyn coch i'r ymwelwyr. Roedd y gosb yn ymddangos yn llym wrth i fraich yr ymosodwr daro yn erbyn Helguson wrth i'r ddau fynd am bêl uchel.
Ganol wythnos daeth Barnsley yn gyfartal gyda chic ola'r gêm bron ac roedd angen ail ar Gaerdydd i osgoi'r un peth.
Fe ddaeth yr ail ar yr awr. Croesiad o'r chwith gan Andrew Taylor a pheniad grymus Rudy Gestede yn ei gwneud hi'n ddwy.
Roedd y newyddion yn cyrraedd Stadiwm Dinas Caerdydd erbyn hyn bod Watford yn colli oddi cartref yn Peterborough - canlyniad sy'n golygu mai dim ond un pwynt fydd angen ar Gaerdydd yn eu pedair gêm olaf er mwyn sicrhau dyrchafiad i'r Uwchgynghrair.
Ac roedd hi'n well fyth o fewn chwe munud arall. Cic gornel gan Bellamy, a pheniad arall i'r gornel gan Gestede i'w gwneud hi'n 3-0.
Pedair gêm yn weddill - un pwynt ei angen. Does bosib nawr y bydd Caerdydd yn ennill dyrchafiad i'r brif adran y tymor nesaf i herio Manchester United, Lerpwl, Chelsea....ac wrth gwrs Abertawe.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2013