AS i godi problemau yn San Steffan

  • Cyhoeddwyd
Sheep in snow in FlintshireFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth y tywydd drwg yng nghanol y tymor wyna i ffermwyr

Bydd aelod seneddol o Gymru yn codi pryderon ffermwyr sydd wedi colli anifeiliaid mewn dadl yn San Steffan.

Dywed Glyn Davies, AS Maldwyn, bod ffermwyr sydd wedi colli anifeiliaid yn eira mis Mawrth yn mynd trwy "cyfnod erchyll".

Mae rhai ffermwyr yn dal i geisio dod o hyd i anifeiliaid a gafodd eu claddu yn yr eira yng ngogledd a chanolbarth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau am gymorth ariannol i'r ffermwyr.

Dywedodd Mr Davies ei fod am gael dadl yn Nhŷ'r Cyffredin er mwyn i'w gyd-aelodau ddeall maint y broblem.

Cydymdeimlad

Mae ffermwyr mewn rhannau eraill o'r DU sydd wedi diodde' yn y tywydd drwg wedi derbyn cymorth ariannol, ond does dim ar gael i'r rhai yng Nghymru heblaw'r £260 miliwn o gyllid o Bolisi Amaeth Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd Cymru, Alun Davies AC, wedi mynegi cydymdeimlad gyda'r ffermwyr, ac wedi cynnig ystod o fesurau i'w cynorthwyo, ond ddim arian.

Wrth ysgrifennu yn ei flog, dywedodd yr aelod Ceidwadol Glyn Davies ei fod yn bryderus am ffermwyr sy'n teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi eu gadael i lawr.

"Rwy'n gwybod sut beth yw edrych ar ôl defaid mewn tywydd drwg," meddai.

"A dyw tywydd ddim yn dod lot gwaeth ha'r hyn a welsom dros yr wythnosau diwethaf."

'Wfftio problemau'

Er bod amaethyddiaeth yn bwnc sydd wedi ei ddatganoli, dywedodd Mr Davies ei fod yn awyddus i godi'r mater yn San Steffan.

Ysgrifennodd: "Mae rhai ffermwyr mynydd yn Sir Drefaldwyn yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael i lawr gan agwedd Llywodraeth Cymru, sy'n ymddangos fel pe bai nhw'n wfftio'r problemau mawr y maen nhw'n eu hwynebu."

Dywedodd y byddai cyflwyno cais am ddadl ar effaith y tywydd drwg ar ffermwyr mynydd pan fydd ASau'n dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin ddydd Llun.

"Y cyfan yr wyf am wneud," meddai, "yw gwneud yn siwr fod ASau'n deall beth sydd wedi digwydd.

"Mae'n bosib mai fi yw'r unig AS sydd â phrofiad o dyrchu defaid allan o 10 troedfedd o eira."

Mae Mr Davies hefyd wedi trefnu cyfarfod gyda ffermwyr sydd am siarad ag ef am y broblem, ac fe fydd y cyfarfod ym mart y Trallwng wythnos i ddydd Llun.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol