Mewn lluniau: Dyrchafiad Caerdydd i'r Uwchgynghrair
- Cyhoeddwyd

Daw llwyddiant Caerdydd 53 blynedd i'r diwrnod ers y tro diwethaf iddyn nhw gael eu dyrchafu i Brif Adran Cynghrair Lloegr.

Dim ond gêm gyfartal yn erbyn Charlton Athletic oedd angen ar yr Adar Gleision i sicrhau dyrchafiad.

Roedd yr awyrgylch yn ystod y gêm yn erbyn Charlton Athletic nos Fawrth yn drydanol.

Ond dechreuodd y dorf ddathlu cyn gynted ag y sylddweddolon nhw fod Watford yn colli.

Roedd cannoedd o gefnogwyr ar y cae ar ôl i'r chwiban olaf gael ei chwythu wrth i'r gêm orffen yn ddisgôr.

Hwn yw'r pedwerydd tro i Gaerdydd gael eu dyrchafu i Brif Adran Lloegr.

Rheolwr Caerdydd Malky Mackay yng nghanol y dathlu

Fe ddathlodd Craig Bellamy, sy'n hanu o Gaerdydd, gyda'r cefnogwyr yn dilyn y gêm.

Nid yw'r clwb wedi chwarae ym mhrif adran Cynghrair Lloegr er 1962.

Mae'r Adar Gleision wedi bod ar frig y Bencampwriaeth ers mis Tachwedd.

Cafodd y gêm ei gwylio gan fwy na 26,000 o gefnogwyr yn Stadiwm Caerdydd

Disgwylir i ddyrchafiad y clwb fod yn fuddiol yn ariannol i'r Adar Gleision ac i'r brifddinas

Deellir fod gan berchennog y clwb Vincent Tan gynlluniau cyffrous ar gyfer yr Adar Gleision

Mae perchennog y clwb Vincent Tan wedi dweud y byddai'n gwario hyd at £25 miliwn ar chwaraewyr newydd ar ôl i'r Adar Gleision gael eu dyrchafu i'r Uwchgynghrair.
Straeon perthnasol
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2013