Cyhoeddi cynllun gofal diwedd oes

  • Cyhoeddwyd
Gofal diwedd oes
Disgrifiad o’r llun,

Mae elusennau canser a henoed yn croesawu cynllun Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun yn ymwneud â gofal diwedd oes i bobl Cymru.

Nod cynllun Darparu Gofal Diwedd Oes yw amlinellu'r disgwyliadau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i bartneriaid i ddarparu gwasanaethau sy'n gyson a da ledled y wlad.

Yn benodol, y nod yw gwella hyfforddiant ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n darparu gofal diwedd oes yn y gymuned, gan ddatblygu sgiliau i gefnogi pobl lle bynnag y byddan nhw'n dewis marw.

Fe fydd sgiliau cyfathrebu er mwyn medru trafod diwedd oes gydag unigolion a'u teuluoedd hefyd yn rhan o'r cynllun.

'Adlewyrchu cymdeithas'

Daw'r cynlluniau ffurfiol yn sgil proses ymgynghori am strategaeth Llywodraeth Cymru a lansiwyd ym mis Medi'r llynedd, strategaeth gafodd groeso Macmillan a Marie Curie ynghyd ag Age Cymru.

Mae'r mudiadau i gyd hefyd wedi croesawu'r cynlluniau penodol sy'n cael eu cyhoeddi ddydd Iau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: "Mae safon ein gofal i bobl wrth iddyn nhw farw yn adlewyrchu safon ein gofal fel cymdeithas.

"Mae'n hollbwysig diogelu urddas unigolion yn eu dyddiau olaf. Mae modd gwneud hyn drwy gael trafodaethau agored a gonest am ddiwedd oes a helpu pobl a'u teuluoedd i gynllunio ar gyfer diwedd oes.

"Mae'r cynllun sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn amlinellu'r ffordd y byddwn ni'n sicrhau gofal diwedd oes cyson ledled Cymru, gan leihau straen salwch marwol i gleifion a'u teuluoedd fel eu bod yn cael gofal a chymorth da."

'Cydbwyso blaenoriaethau'

Dywedodd yr Athro Meddygaeth Liniarol ym Mhrifysgol Caerdydd, y Farwnes Ilora Finlay: "Mae'r gofal y mae pobl yn ei gael ar ddiwedd oes yn byw ym meddyliau'r rheini sy'n cael profedigaeth.

"Rydyn ni'n gosod cynsail ar gyfer y genhedlaeth nesaf oherwydd y gofal rydyn ni'n ei ddarparu heddiw.

"Mae angen i weithwyr iechyd proffesiynol wrando ar gleifion a'r rheini sy'n eu hadnabod nhw orau, gan gydbwyso blaenoriaethau sydd weithiau'n wahanol.

"Ein nod yn y cynllun hwn yw sicrhau bod dymuniadau pobl yn hysbys, bod y rheini sy'n darparu gofal yn gwybod beth i'w wneud a ble i gael cymorth, a bod manylder ar bob lefel.

"Y cam nesaf fydd sicrhau bod pawb yn barod ... ac mai'r proffil gofal gorau sydd fwyaf amlwg."

'Gweithio integredig'

Dywedodd Simon Jones, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus ar gyfer Gofal Canser Marie Curie yng Nghymru: "Fel sefydliad, rydyn ni'n croesawu cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal lliniarol yng Nghymru.

"Rydyn ni'n arbennig o falch gyda'r pwyslais ar ddarparu gofal lliniarol drwy weithio integredig rhwng y GIG, llywodraeth leol a darparwyr trydydd sector, fydd yn ei gwneud yn haws i gleifion â salwch marwol gael y gofal y mae ei angen arnyn nhw.

"Ar hyn o bryd mae Marie Curie yn gweithio ochr yn ochr â byrddau iechyd Cymru ar nifer o brosiectau gwasanaeth gofal integredig, sy'n dangos cyfraniad at weledigaeth Llywodraeth Cymru ar ofal lliniarol."

Dywedodd Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru: "Mae Macmillan yn croesawu Cynllun Darparu Gofal Diwedd Oes newydd Llywodraeth Cymru, sef y strategaeth gynhwysfawr gyntaf ar ofal diwedd oes yng Nghymru.

"Er bod 49% o bobl bellach yn goroesi am fwy na phum mlynedd gyda chanser, mae'n drist nodi mai'r clefyd yw'r rheswm am y mwyaf o farwolaethau yn y DU."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol