Arweinydd ar gyfer gwyl Llangollen
- Cyhoeddwyd
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn edrych am berson newydd i arwain yr ŵyl.
Ar ôl gwneud elw am y tro cyntaf ers pum mlynedd y llynedd mae'r pwyllgor sydd yn rhedeg y digwyddiad blynyddol wedi penderfynu penodi prif weithredwr.
Gall y person fydd yn cael ei ddewis disgwyl cyflog allai fod cymaint â £70,000 a hynny am 100 diwrnod o waith y flwyddyn.
Dywedodd y Cadeirydd Phil Davies: "Mae'n rôl holl bwysig ond rydyn ni yn teimlo bod yr ŵyl yn ddigwyddiad mor unigryw bod ni yn amser i chwilio am brif weithredwr i sicrhau bod llwyddiant yr Eisteddfod yn parhau."
Yn ôl Phil Davies fydd angen i'r person llwyddiannus feddu ar sgiliau busnes da a sgiliau rheoli. Fe fyddai'r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol.
"Rydyn ni yn gweld y person fydd yn gwneud y rôl yn pontio nid yn unig y mudiadau o'r tu allan ond hefyd gydag ein cyfarwyddwr cerddoriaeth wych, Eilir Owen Griffiths, ein staff a'r 500 a mwy o wirfoddolwyr sydd yn dod at ei gilydd i wneud y digwyddiad yn un mor unigryw."
Hanes yr Eisteddfod
Mae'r ŵyl wedi denu ymwelwyr a chystadleuwyr ar draws y byd ers iddi gychwyn yn 1947.
Fe gafodd hi ei chreu wedi'r Ail Rhyfel Byd fel digwyddiad i hybu heddwch rhyngwladol a chreu cysylltiadau rhwng cenhedloedd.
Bob blwyddyn mae 2,500 o gystadleuwyr o dramor yn dod i Langollen a bron i 40,000 yn ymweld â'r ŵyl.
Eleni bydd artistiaid fel Jools Holland ac Only Men Aloud yn perfformio.
Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn digwydd rhwng y 9-14 o Orffennaf.