Canlyniadau Etholiad Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Roedd etholiad Cyngor Ynys Môn i fod i ddigwydd ar yr un pryd â'r holl awdurdodau lleol eraill yng Nghymru yn 2012.
Ond ym Mawrth 2011, cafodd comisiynwyr eu penodi i redeg yr awdurdod gan Lywodraeth Cymru yng nghanol pryderon am ymddygiad rhai cynghorwyr a sut yr oedd y cyngor yn cael ei redeg.
Cafodd yr etholiad felly ei ohirio tan eleni. O fis Mai, bydd yn cael ei ad-drefnu i 11 o wardiau aml-aelod, felly fe fydd 30 o gynghorwyr yn cael eu hethol yn hytrach na 40 o gynghorwyr oedd yn cael eu hethol mewn 40 etholaeth unigol.
Mae'r newidiadau uchod yn seiliedig ar ganlyniadau cyfatebol yn 2008 a gafodd eu paratoi gan yr Athro Colin Rallings a'r Athro Michael Thrasher o Brifysgol Plymouth.