Nifer achosion y frech goch yn codi i 1,094

  • Cyhoeddwyd
Galw ar ragor o bobl i ifanc i gael y brechiad MMR rhag y frech goch
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na alw ar ragor o blant a phobl ifanc i gael y brechiad MMR

Mae 1,094 o achosion y frech goch yn ardal Abertawe, cynnydd o 20 o fewn pum diwrnod.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn siomedig fod nifer y plant a'r bobl ifanc sydd wedi cael y brechiad MMR yn parhau'n isel.

Mae 1,257 o bobl yng Nghymru wedi cael y frech goch ers yr achos cyntaf yn Nhachwedd 2012.

Petai 95% o bobl ar draws Cymru yn cael y brechiad driphlyg, yn ôl meddygon, fe fyddai'n atal mwy o gyfresi o achosion.

'Niwed difrifol'

Plant a phobl ifanc rhwng 10 a 18 oed sydd wedi cael eu taro waethaf gan y frech goch.

Dywedodd y Dr Marion Lyons, Cyfarwyddwr Gwarchod Iechyd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydwi'n pryderu bod rhai wedi cael yr argraff, gan fod nifer yr achosion newydd yn arafu, bod bygythiad y frech goch yn diflannu.

"Nid felly y mae hi. Mater o amser yw hi tan y bydd plentyn yn cael niwed difrifol a pharhaol fel problemau golwg neu glyw, nam ar yr ymennydd, neu'n marw."

Cafodd dros 43,000 o frechiadau MMR eu rhoi i bobl ers yr achosion cyntaf yn Aberatwe.

Yn ogystâl ac ardaloedd byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Hywel Dda a Phowys, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio bod achosion pellach o'r frech goch yn bosib mewn ardaloedd eraill.

Clwstwr posib'

Mae 'na bryder penodol am glwstwr posib' o achosion yn ardal Gwent.

Cafodd 84 o achosion o'r salwch eu cofnodi yno ers mis Tachwedd 2012.

Yn yr wythnos hyd at Fai 9 cafodd 201 o frechiadau MMR eu rhoi i blant a phobl ifanc rhwng 10 a 19 oed yng Ngwent.

Ond gallai hyd at 10,000 o blant fod mewn perygl o hyd o gael y frech goch.

Yn ôl y Dr Lyons: "Mae'r 84 o achosion yng Ngwent yn bryder mawr i ni.

"Rydym ni yn rhybuddio pobl ifanc a'u rhieni i beidio â chymryd unrhywbeth yn ganiatol am nad ydyn nhw yn byw yn yr ardal lle mae'r rhan fwyaf o achosion."

Mae pobl ifanc a'u rhieni yn cael eu hannog i fynd i'r sesiynau brechu sy'n dal i gael eu cynnal mewn ysgolion.

Clinigau pellach

Ddydd Sadwrn Mai 18 bydd clinigau galw heibio yn Ysbytai Treforys a Singleton yn Abertawe, Ysbyty Tywsoges Cymru ym Mhenybont-ar-Ogwr ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot rhwng 10am a 4pm. Does dim angen apwyntiad.

Bydd clinig yn cael ei gynnal y diwrnod hwnnw yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Does dim angen apwyntiad rhwng 11am a 3pm yn adran cleifion allanol Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

Ond dyw hi ddim yn bosib brechu plant sydd o dan flwydd oed.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn atgoffa pobl ifanc a'u rhieni bod angen iddyn nhw drefnu i gael ail ddos y brechiad

os ydyn nhw wedi cael dos cynta'r MMR yn y mis diwethaf. Mae'n rhaid cael yr ail ddos i atal y frech goch yn gyfangwbl.

Mae gwybodaeth bellach Iechyd Cyhoeddus Cymru am achosion y frech goch yma, dolen allanol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol