Dim eithrio i'r gwaharddiad smygu
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi dweud na fydd eithrio rhag y gwaharddiad ar smygu yn y gweithle.
Roedd y llywodraeth wedi sefydlu is-bwyllgor er mwyn ystyried a ddylai'r gwaharddiad gael ei lacio er mwyn caniatáu smygu ar setiau ffilm a theledu.
'Adolygu'
Yn ôl y rhai o blaid eithrio, gan gynnwys BBC Cymru, fe fyddai Cymru'n colli busnes i Loegr oherwydd ei bod hi'n haws ffilmio golygfeydd oedd yn cynnwys smygu yno.
Mewn sesiwn o'r is-bwyllgor smygu nad oedd yn ei gadeirio roedd Mr Drakeford wedi dweud bod y ddadl o blaid eithrio yn "sylfaenol ac yn foesol wrthun".
Ddydd Mercher dywedodd: "Mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth [Edwina Hart] a minnau wedi adolygu'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r is-bwyllgorau hyd yma, ac wedi dod i'r penderfyniad na fydd y llywodraeth yn parhau â'r cynigion gwreiddiol ar hyn o bryd."
'Ildio'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar ddiwylliant Suzy Davies fod y cyhoeddiad yn "newyddion drwg i'r sector diwydiant creadigol yng Nghymru."
"Sylwodd Llywodraeth Cymru y byddai darparu eithriad i'r gwaharddiad ysmygu ar gyfer ffilm a theledu yn creu maes chwarae gwastad ar gyfer cynhyrchwyr o Gymru.
"Fodd bynnag, maen nhw wedi ildio i bwysau gwleidyddol ac wedi anwybyddu realiti."
Dywedodd fod y Gweinidog Busnes, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn rhestru'r diwydiannau creadigol fel un o sectorau pwysicaf Cymru.
"Mae'r Gweinidog Iechyd yn y bôn wedi tanseilio y farn honno.
"Mae'n farchnad gystadleuol iawn a mae tro pedol Llywodraeth Cymru wedi rhoi mantais i'r sector creadigol Saesneg."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru Elin Jones: "Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi tynnu'r ddeddfwriaeth hon yn ôl.
"Roedd yn amlwg o'r dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor nad oedd cyfiawnhad economaidd nac un iechyd dros greu eithriad i'r gwaharddiad."
'Diogelu'
Un mudiad sydd wedi croesawu'r penderfyniad yw ASH Cymru, corff sy'n brwydro i leihau'r defnydd o dybaco yng Nghymru.
Dywedodd y prif weithredwr Elen de Lacy: "Mae'r gwaharddiad ar smygu wastad wedi bod ynglŷn â diogelu iechyd y cyhoedd ac mae gan yr holl weithwyr yng Nghymru'r hawl i gael eu hamddiffyn rhag niwed sy'n cael ei achosi gan fwg ail-law lle bynnag y maen nhw'n gweithio.
"Mae gofynion y diwydiant ffilm a theledu wedi eu gwrthod ac rydym yn gobeithio na fydden nhw byth yn gwneud galwadau hyn eto.
'Neges glir'
"Mae'r penderfyniad hwn yn anfon neges glir i'r holl ddiwydiannau sydd am herio ein deddfwriaeth, gan gynnwys y diwydiant tybaco, bod ein gwerthoedd cyhoeddus ddim ar werth. "
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru y byddai'r gorfforaeth yn "canolbwyntio ar ennill comisiynau newydd a darparu dramâu o'r radd flaenaf o Gymru.
"Byddwn yn parchu penderfyniad y gweinidog," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2012