ACau i drafod newid gwaharddiad ysmygu
- Cyhoeddwyd
Bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i bwyllgor Aelodau Cynulliad wrando ar ddadleuon ynglŷn ac eithrio setiau ffilm a theledu o'r gwaharddiad ysmygu.
Mae gweinidogion eisiau newid y gyfraith am eu bod yn pryderu na fydd cynhyrchwyr yn dod i Gymru os nad yw actorion yn cael ysmygu tra'n ffilmio.
Ond mae rhai Aelodau Cynulliad yn gwrthwynebu'r cynllun ac eisiau edrych ar yr eithriad yn fanylach.
Byddai'n rhaid i'r rheolau newydd fynd i bleidlais yn y Senedd cyn newid y ddeddf.
Mae pleidlais oedd wedi'i chlustnodi ar gyfer yr wythnos nesa' wedi cael ei gohirio wrth i weinidogion alw ar bwyllgorau iechyd a mentergarwch i ystyried y dadleuon.
Cafodd eithriad ei gynnwys yn y gwaharddiad ysmygu yn Lloegr ond dyw'r ddeddf yng Nghymru, a gyflwynwyd yn 2007, ddim yn caniatáu ysmygu ar set.
'Pryderon'
Mae cynhyrchwyr ffilmiau wedi galw ar Lywodraeth Cymru i newid y gyfraith. Mae'r BBC hefyd o blaid yr eithriad.
Mewn cyfarfod ddydd Mawrth fe ddywedodd y cabinet eu bod yn cefnogi'r syniad o eithrio ar sail economaidd.
Dywedodd llefarydd: "Ond ar yr un pryd, mae'r llywodraeth yn cydnabod bod 'na bryderon am y mater ymhlith rhai Aelodau Cynulliad.
"Mewn ymateb i'r pryderon hyn, mae'r llywodraeth wedi penderfynu gofyn i gadeiryddion y pwyllgor mentergarwch a busnes, a'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol i gwrdd ar y cyd i wrando ar dystiolaeth o bob ochr ac i baratoi adroddiad am eu casgliadau.
"Mae pwysigrwydd yr eithriad hwn i'r economi yng Nghymru yn ddiamheuol ym marn y llywodraeth.
"Mae'n bwysig fod y Cynulliad yn clywed yr achos economaidd yn llawn."
'Dim hyblygrwydd'
Yn gynharach, galwodd Plaid Cymru ar i'r cynnig fynd gerbron y pwyllgor iechyd trawsbleidiol.
Dywedodd llefarydd y blaid ar iechyd, Elin Jones: "Mae'r gwaharddiad ysmygu wedi cael cefnogaeth eang yn y Cynulliad a byddai unrhyw gamu'n ôl yn gwanhau unrhyw gamau mawr i wella iechyd y genedl drwy leihau'r posibilrwydd fod pobl yn anadlu mwg ail-law."
Mewn datganiad, dywedodd BBC Cymru: "Fyddem ni ond yn dangos cymeriadau'n ysmygu petai hi'n anwiredd i beidio ac, ar draws y BBC, rydym wedi cyflwyno mesurau llym i reoli'r risg i staff o ran amgylchoedd peryglus, gan gynnwys ysmygu.
"Dyw'r gyfraith yng Nghymru ddim yn caniatáu unrhyw hyblygrwydd i gynhyrchiadau ar hyn o bryd, sy'n golygu bod yn rhaid ffilmio golygfeydd ysmygu un ai dros y ffin neu gyda thechnoleg golygu arbennig - ac er mai dyma fyddai'r opsiynau cynta' i ni, dydyn nhw ddim bob tro'n effeithiol nag yn ymarferol.
"Fel prif gynhyrchydd drama, mae BBC Cymru'n ceisio ffilmio popeth mewn modd cywir a chyfrifol ac rydym yn cydnabod y byddai'r eithriad cul sydd dan sylw yn ein galluogi i wneud hyn yn iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012