Lamp losgi'n achosi tân

  • Cyhoeddwyd
Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Achosodd y tân ddifrod i swyddfa ac eitemau

Mae ymchwiliad wedi dangos mai trwy ddamwain aeth rhan o do'r Llyfrgell Genedlaethol ar dân am fod gweithwyr yn defnyddio lamp losgi.

Yn ôl y gwasanaeth tân, aeth darnau o bren ar dân wrth i'r ddau ddyn wneud gwaith cynnal a chadw ar do'r llyfrgell.

Achosodd y tan ddifrod i swyddfa ac eitemau yr oedd staff wrthi'n gweithio arnyn nhw ar y pryd.

Difrodwyd rhannau o gasgliad hanesyddol y llyfrgell gan ddŵr oedd wedi treiddio trwy'r adeilad wrth i ddiffoddwyr geisio ymladd y fflamau.