Llyfrgell Genedlaethol: Ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Cyfnod anodd yn hanes y Llyfrgell'

Nid yw'n ymddangos bod unrhyw un o storfeydd y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth wedi eu difrodi gan y tân difrifol yno ddydd Gwener.

Yn ôl y Llyfrgell, yr unig eitemau o'r casgliad i gael niwed oedd y rhai yr oedd y staff yn eu defnyddio ar y pryd.

Mae ymchwiliad ar y gweill i'r hyn achosodd y tân.

Roedd diffoddwyr tân yno drwy'r nos, ar ôl i fflamau gydio yn nho estyniad i'r adeilad brynhawn Gwener.

Mae swyddogion tân wedi bod ar y safle am ran helaeth o'r dydd ac mae arbenigwyr o Rydychen wedi bod draw hefyd i gynorthwyo gyda'r gwaith o geisio adfer rhai gweithiau allai fod wedi eu difrodi.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Arwel Jones wrth y BBC ddydd Sadwrn bod y dŵr a ddefnyddiwyd i ddiffodd y fflamau wedi treiddio trwy bump neu chwe llawr o'r adeilad.

"Mae difrod i strwythur yr adeilad ac i swyddfeydd, ac wrth gwrs, i unrhyw gasgliadau oedd yn cael sylw yno ar y pryd.

"Hyd y gwyddom, mae'r difrod i gasgliadau yn gyfyngedig.

"Fe allai fod wedi bod yn llawer gwaeth".

Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Tân yn ymchwilio i achos y tân. Yn y man, bydd y Llyfrgell yn cynnal eu hymchwiliad eu hunain.

Contractwyr

Roedd contractwyr yn gweithio ar do'r adeilad ddydd Gwener yn union cyn i'r tân gynnau ond nid yw'r Llyfrgell mewn sefyllfa i ddod i unrhyw gasgliadau ar sail hyn.

Dywedodd Syr Deian Hopkin, Llywydd y Llyfrgell: 'Hoffwn ddatgan fy rhyddhad at y newyddion bod pawb wedi llwyddo i adael yr adeilad yn ddiogel pan seiniwyd y larwm tân ac ar ran y Llyfrgell hoffwn ddiolch i Wasanaethau Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru am ymateb yn sydyn a'u hymdrechion i ddiffodd y tân.

"Hoffwn hefyd ddiolch i'r nifer fawr o unigolion a sefydliadau am eu cynigion sydyn o gymorth ymarferol a'u cydymdeimlad ar y cyfnod anodd hwn yn hanes y Llyfrgell".

Nid oedd y llyfrgell ar agor ddydd Sadwrn. Fe fydd ar gau i'r cyhoedd ddydd Llun, ond bydd cyfarfod ar gyfer staff am 10.00am.

300 o weithwyr ac ymwelwyr

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw am 2.39pm.

Mae rhan 30 metr o hyd o'r to wedi cael ei difrodi a bu raid i 300 o weithwyr ac ymwelwyr adael yr adeilad.

Roedd y tân yng nghefn yr adeilad gyferbyn â'r prif faes barcio.

Ar un adeg roedd diffoddwyr yn defnyddio ysgol hir wrth geisio diffodd y fflamau.