Dodrefn 'Shaker' sy'n ysbrydoli'r Gadair
- Cyhoeddwyd
Mae Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Benfro eleni wedi ei hysbrydoli gan symlrwydd dodrefn 'Shaker'.
Mae'r Gadair wedi ei gwneud allan o dderw lleol a bydd yn cynnwys carreg las enwog Preseli.
Des Davies o Flaenffos ger Boncath sydd wedi creu'r Gadair eleni, y tro cyntaf iddo greu Cadair ar gyfer Eisteddfod.
"Fe oeddwn i eisiau defnyddio deunyddiau lleol ac mae'r Gadair wedi ei gwneud o bren deri.
'Wyth panel'
"Cafodd y goeden ei chwympo ar fferm rhwng Crymych a Glyndŵr dros chwarter canrif yn ôl.
"Mae diddordeb gyda fi hefyd yng ngharreg las Preseli ac mae wyth panel o'r garreg las yn rhedeg lawr cefn y gadair."
Mae Mr Davies yn edmygu dodrefn Charles Rennie Mackintosh a symlrwydd dodrefn Shaker a hwn a'i ysbrydolodd i greu cynllun syml ar gyfer y Gadair.
"Mae'n well gyda fi wneud dodrefn gweddol syml o ran cynllun ac ar ôl trafod gyda fy ngwraig a ffrindiau penderfynais greu cynllun syml gan ddefnyddio deunyddiau lleol o safon," meddai.
"Awelon yw testun y Gadair eleni ac, yn sicr, mae'r pren deri a'r garreg las yn y Gadair wedi teimlo digon o awelon Sir Benfro dros y blynyddoedd."
Bydd y Gadair yn cael ei chyflwyno ddydd Iau Mai 30 i'r bardd buddugol.
'Carreg Waldo'
Eurfyl Reed, sy'n wreiddiol o Drefdraeth, sydd wedi creu Coron yr Urdd eleni.
Mae'r Goron yn cynrychioli gwibdaith o amgylch Sir Benfro ac arni bydd delweddau o'r diwydiant olew yn ne'r sir, amaethyddiaeth, twristiaeth a hanes lleol.
Dywedodd Mr Reed: "Bydd carreg Waldo ar flaen y Goron, wedi ei gwneud o garreg las Preseli gyda thriban yr Urdd wedi ei wneud o aur melyn, aur gwyn ac aur coch ar ganol y garreg.
"Bydd y Goron wedyn wedi ei hamgylchynu gan ddelweddau o'r ardal, gyda nifer o dechnegau wedi eu defnyddio i'w creu a'i siâp yn dilyn mynyddoedd y Preseli.
'Anrhydedd'
"Un o'r anrhydeddau mwyaf 'rydw i wedi ei gael erioed oedd pan ofynnwyd i mi greu hon," meddai.
"Mi ydw i wedi gorffen y Goron ers bron i flwyddyn ar ôl treulio'r flwyddyn flaenorol yn gweithio arni fin nos a thros benwythnosau."
Bydd y Goron yn cael ei chyflwyno i'r Prif Lenor ddydd Gwener, Mai 31.