Deon: Ad-drefnu yn 'hanfodol'

  • Cyhoeddwyd
Dr Derek Gallen
Disgrifiad o’r llun,

Fe roddodd Dr Gallen dystiolaeth i bwyllgor iechyd y Cynulliad ym mis Ionawr

Mae deon uwchraddedigion Deoniaeth Cymru yn dweud bod ad-drefnu gwasanaethau iechyd yn y de yn "hanfodol" er mwyn denu doctoriaid i Gymru.

Mae'r Athro Derek Gallen yn credu bod angen canoli gofal arbenigol mewn ysbytai mwy er mwyn i Gymru fedru darparu doctoriaid gyda'r hyfforddiant arbenigol maent ei angen.

Os yw'r newidiadau sy'n cael eu cynnig yn mynd yn eu blaen, bydd nifer y canolfannau arbenigol yn y de yn cael eu cwtogi o saith i bedwar neu bump.

Mae rhai pobl sy'n byw yn yr ardaloedd wedi codi pryderon ynglŷn â'r cynlluniau gan ddweud y bydden nhw'n gorfod teithio'n bellach er mwyn derbyn gofal.

Cafodd ymgynghoriad ar y newidiadau ei lansio'r wythnos ddiwethaf er mwyn rhoi cyfle i bobl ddweud eu barn ar y cynlluniau.

Yn ôl swyddogion iechyd y cam mwyaf addas fyddai lleoli gwasanaethau arbenigol yng Nghaerdydd, Abertawe, Merthyr a Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal ag adeiladu ysbyty newydd yng Nghwmbrân.

Byddai'r unedau yma'n cael eu harwain gan ymgynghorwyr meddygol fyddai yno bob awr o bob dydd.

Ond byddai Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant yn rhoi'r gorau i drin yr achosion brys mwyaf difrifol.

'Dirywiad parhaol'

"Mae Deoniaeth Cymru yn cefnogi gwaith Rhaglen De Cymru i ad-drefnu gwasanaethau - mae newid y ffordd rydym yn darparu rhai gwasanaethau ysbyty yn hanfodol i'n helpu i wella'r profiad hyfforddi ac i ddenu meddygon i Gymru," meddai'r Athro Gallen.

"Rydym yn gweld dirywiad parhaol o ran recriwtio a chadw meddygon dan hyfforddiant mewn nifer o arbenigeddau.

Disgrifiad o’r llun,

Mar Dr Gallen yn dweud bod y newidiadau'n 'hanfodol'

"Mae hwn yn fater hanfodol pwysig ar gyfer y gwasanaeth iechyd oherwydd ein bod yn cael llawer o'r meddygon, ymgynghorwyr a meddygon teulu sy'n gweithio ar y rheng flaen o'n rhaglenni hyfforddi."

Deoniaeth Cymru sy'n gyfrifol am recriwtio doctoriaid sylfaen, arbenigol a chyffredinol yn ogystal â deintyddion dan hyfforddiant ledled Cymru.

Yn ôl Dr Gallen mae Cymru'n ei chael hi'n anoddach recriwtio ar gyfer rhai arbenigeddau na gweddill y DU oherwydd bod doctoriaid ddim eisiau gweithio a hyfforddi mewn ysbytai bach.

Mae rhai aelodau Llafur yn ardal Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi dweud eu bod nhw'n gwrthwynebu'r cynlluniau i gau'r ysbyty.

Mae'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi dweud nad ydynt am weld ysbytai lleol yn cynnig llai o wasanaethau.

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal tan 19 Gorffennaf.