Prifysgolion Cymru'n creu £3.6 biliwn

  • Cyhoeddwyd
View Holographics
Disgrifiad o’r llun,

Mae View Holographics wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Glyndŵr

Mae ymchwil newydd yn dangos bod prifysgolion yn creu £3.6 biliwn bob blwyddyn i economi Cymru.

Yn ôl yr adroddiad, a gomisiynwyd gan Addysg Uwch Cymru - y corff sy'n cynrychioli prifysgolion - mae un biliwn o hynny yn arian sy'n cael ei wario gan fyfyrwyr.

Ond dywed rhai bod angen cysylltiadau agosach rhwng y prifysgolion a darpar gyflogwyr.

Mae prifysgolion yng Nghymru yn cyflogi cyfanswm o tua 16,000 o staff llawn amser.

Ond mae'r ymchwil yn dangos fod bron i 40,000 o bobl yn cael eu cyflogi naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan brifysgolion, sef tua 3% o'r gweithlu.

Cydweithio

Mae yna rai enghreifftiau o brifysgolion yn gweithio gyda busnesau, megis View Holographics yn Llanelwy.

Mae'r cwmni wedi cael cymorth gan Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam, sydd wedi darparu cefnogaeth dechnegol ynghyd â defnydd swyddfeydd.

Dywedodd Richard Melling, cyfarwyddwr prosiect yn View Holographics, bod y berthynas wedi bod o fudd i'r ddwy ochr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o fyfyrwyr ond gyda gwybodaeth sylfaenol o'r sgiliau angenrheidiol

Dywedodd: "Mae gennym dechnoleg gymhleth a chyffrous, ac mae wedi bod yn wych i gael cefnogaeth y brifysgol.

"Mae e wedi bod yn hanfodol yn nhermau symud y dechnoleg ymlaen."

Mae'r math yma o berthynas yn ddatblygiad diweddar, yn ôl yr Athro Chris Jones, pennaeth ysgol fusnes Prifysgol Glyndŵr.

"Rwy'n credu mai'r broblem dros y genhedlaeth ddiwethaf oedd y gellid maddau i'r gymuned fusnes am gredu nad oedd prifysgol yn berthnasol i'w hanghenion," meddai.

"Cyfrifoldeb y prifysgolion yw gweiddi'n uwch ynglŷn â'r hyn y gallan nhw wneud i helpu.

"Yr hyn sy'n rhaid iddyn nhw wneud yw gwneud eu hunain yn berthnasol i'r busnesau y maen nhw'n eu gwasanaethu yn eu cymunedau a thu hwnt."

Newid dros genhedlaeth

Mae'r brifysgol yn lansio cwrs gradd newydd mewn entrepreneuriaeth a datblygu 'appiau'.

Dyna'r maes lle mae'r twf mwyaf, yn ôl yr Athro Jones.

"Os cofiwch chi ryw 15 mlynedd yn ôl, fe wnaeth pob busnes sylweddoli'n sydyn bod angen gwefan arnyn nhw, ac roedd y cyfleoedd i fyfyrwyr a phobl ifanc bryd hynny yn anferth i fedru cael y sgiliau yna i ddarparu gwefannau i bobl.

"Mae'r byd wedi symud ymlaen, ac mae angen nawr am 'appiau'. Mae yna fylchau anferth yn nhermau faint o bobl sydd â'r sgiliau angenrheidiol i greu'r 'appiau'.

"Yn fy marn i un o'r pethau allweddol yw y dylai pobl yng Nghymru geisio arwain yn y maes arbennig yna."

Mae prif weithredwr cwmni Sequence Software yng Nghaerdydd, Richard Baker, yn cytuno. Ei gwmni ef sy'n gyfrifol am greu'r app sy'n cael ei ddefnyddio gan dîm rygbi'r Llewod yn Awstralia.

"Mae'r bobl sy'n dod atom ond gyda gwybodaeth sylfaenol o'r sgiliau sydd angen arnom," meddai.

"Yn aml, mae'n rhaid i ni dreulio chwech i naw mis yn datblygu'r sgiliau yma i rywbeth y medrwn eu defnyddio'n fasnachol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol