Rhyddhau nyrs ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd

Mae'r nyrs wedi ei gwahardd dros dro o'i gwaith yn Ysbyty Tywysoges Cymru
Mae nyrs yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r heddlu ymchwilio i honiadau bod cofnodion cleifion wedi cael eu ffugio.
Cafodd ei gwahardd o'i gwaith gan Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.
Mae'r honiadau o esgeulustod yn ymwneud â chyfnod o flwyddyn yn dechrau yn Ionawr 2012.
Yn ôl yr heddlu, does dim tystiolaeth bod neb wedi ei niweidio.
Dywedodd llefarydd: "Systemau diogelwch y bwrdd iechyd yw'r rheswm pam y daeth hyn yn amlwg ac mae'r bwrdd iechyd ac adran gwasnaethau cymdeithasol y cyngor yn cefnogi ein hymchwiliad yn llwyr."