Siom i'r Barri a Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Pêl-droed
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llanelli a'r Barri yn wynebu dyfodol ansicr

Mae FA Cymru wedi gwrthod cais Y Barri ac un Llanelli i fod yn rhan o Gynghrair Pêl-droed Cymru.

Fe wnaeth cefnogwyr Llanelli a'r Barri ffurfio clybiau newydd wedi i'r timau fynd i drafferthion flwyddyn diwethaf ac roedden nhw'n gobeithio cael parhau i gystadlu ar yr un lefel.

Roedd Y Barri hyd yn oed yn obeithiol cael chwarae yn yr un gynghrair, sef y gynghrair gyntaf, gan feddwl mai gorfod chwarae yn y trydydd gynghrair oedd y gwaethaf allai ddigwydd iddyn nhw.

Dim hawl

Ond mewn datganiad ar eu gwefan mae FA Cymru wedi dweud wrth y ddau dîm na fydd ganddynt yr hawl i chwarae mewn cynghrair genedlaethol y flwyddyn nesaf.

Mae'r datganiad yn dweud: "Fe wnaeth aelodau o'r cyngor ystyried argymhelliad y dylai'r ddau glwb gael eu derbyn i chwarae yng Nghynghrair Pêl-droed Cymru.

"Pleidleisiodd gyngor FA Cymru yn erbyn yr argymhelliad hwn.

"Mae Tref Barry United AFC a CPD Llanelli wedi cael eu cyfarwyddo i wneud cais am aelodaeth i'w cymdeithasau ardal perthnasol."

Beirniadu

Mae Pwyllgor Cefnogwyr Y Barri, sydd wedi bod yn rheoli'r clwb ers 2011, wedi beirniadu'r penderfyniad, gan ddweud bod y newyddion wedi eu "syfrdanu".

Fe ddywedon nhw mewn datganiad ar eu gwefan: "Mae'n edrych fel bod Cyngor FA Cymru wedi anwybyddu dymuniadau'r gymuned pêl-droed, yn ogystal â llythyrau o gefnogaeth gan Alun Cairns AS, Jane Hutt AC a Chyngor Bro Morgannwg, a deiseb ar-lein wedi ei arwyddo gan dros 1,250 o lofnodwyr i gyrraedd eu penderfyniad.

"Mae'n debyg bod y penderfyniad hwn yn gwrth-ddweud eu cynllun strategol eu hunain ar gyfer cynnwys cymunedau lleol i redeg eu clybiau lleol."

Mae llawer o gefnogwyr clwb Y Barri, a chlybiau Cymreig eraill, wedi beirniadu'r penderfyniad, gan gwyno hefyd am y diffyg esboniad dros y penderfyniad.

"Siomedig iawn"

Un arall sydd wedi codi cwestiynau ynglŷn â'r penderfyniad yw arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Neil Moore.

Dywedodd bod y penderfyniad yn un "siomedig iawn", gan ychwanegu: "Mae oblygiadau'r penderfyniad hwn yn sylweddol gan fod y cyngor yn bwriadu gweithio gyda Tref y Barri Unedig AFC [enw clwb Barri ar ei newydd wedd] i wella pêl-droed ieuenctid ar gyfer bechgyn a merched ac i ddatblygu gwell sgiliau hyfforddi ar draws y gwahanol gynghreiriau sy'n defnyddio meysydd y Fro, er mwyn gwella safon pêl-droed amaturaidd.

"Byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn i hybu pêl-droed cynghrair uwch ym Mharc Jenner ac yn mawr obeithio bod yn dal i fod yn ffordd o gyflawni hyn o yr enw 'Tref y Barri'. "

Fe wnaeth BBC Cymru gysylltu gyda FA Cymru i ofyn am ymateb, ond dywedodd cynrychiolydd ar eu rhan nad oedden nhw eisiau ychwanegu dim i'w datganiad ar hyn o bryd.