Jane Hutt: 'bargen anodd' yn wynebu Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu 'bargen anodd' yn sgil y toriadau nesaf fydd yn cael ei chyhoeddi gan y Canghellor.
Dyna bryder gweinidogion yng Nghymru cyn i George Osbourne gyhoeddi ei adolygiad gwariant ar Fehefin 26.
Mae gwahanol adrannau wedi cael gwybod faint o arbedion y mae'n rhaid iddyn nhw wneud gyda thoriadau posib yn cael eu trafod mewn cyfarfodydd.
Yn gynharach yn yr wythnos mi wnaeth Prif Weinidog Cymru rhybuddio y gallai yna fod torri nôl yn y flwyddyn ariannol hon.
£80 miliwn
Mae Jane Hutt, y gweinidog cyllid wedi dweud wrth raglen wleidyddol y BBC Sunday Politics bod angen iddi ffeindio £32 miliwn o arbedion eleni a bod y llywodraeth yn wynebu toriad o £80 miliwn y flwyddyn nesaf.
Mi wnaeth hi gyfarfod ysgrifennydd y trysorlys, Danny Alexander ym Melfast wythnos diwethaf:
"Rydyn ni yn gwybod ein bod ni yn mynd i gael bargen anodd o ran yr adolygiad gwariant oherwydd maen nhw wedi dynodi yn y gyllideb ym mis Mawrth bod angen iddyn nhw ffeindio £11.5 biliwn ar ben y toriadau eraill rydyn ni wedi gorfod ymdopi a nhw. Mae hynny yn golygu dewisiadau anodd iawn i Lywodraeth Cymru."
Fydd y fwyell ddim yn disgyn ar rai adrannau megis iechyd a'r gyllideb ar gyfer buddion cyffredinol fel presgripsiynau am ddim. Ond mae adrannau fel y llywodraeth leol yn debygol o weld y pres maen nhw'n derbyn yn crebachu.
Gwarchod iechyd
Dywed y Ceidwadwyr ei bod eisiau gweld y gyllideb iechyd yn cael ei gwarchod yn llwyr fel bod y gyllideb yn codi gyda chwyddiant. Byddai hynny yn golygu toriadau mwy dwfn mewn meysydd eraill.
Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid, yr AC Paul Davies, mae Llywodraeth San Steffan wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd yn y blynyddoedd diwethaf a dyna yw natur gwleidyddiaeth: "Dyna yw gwleidyddiaeth- gwneud dewisiadau ac mae gan Lywodraeth Cymru'r pŵer i wneud y dewisiadau hynny ac i flaenoriaethu yn addas. Dyna pam y bydden ni er enghraifft eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn amddiffyn y gyllideb iechyd."
Bydd Jane Hutt yn cyhoeddi ei chyllideb nesaf yn yr hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2013