Ffigyrau ambiwlans: oedi cyn ymateb i alwadau cleifion

  • Cyhoeddwyd
AmbiwlansFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwasanaeth ambiwlans yn dweud ei bod wedi ymateb i fwy o alwadau argyfyngus yn 2012/13

Mi gymerodd ambiwlansys fwy na 20 munud i ymateb i 11,000 o alwadau brys yn 2012-13 yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law Plaid Cymru.

Fe wnaeth y blaid gais rhyddid gwybodaeth er mwyn darganfod faint o alwadau oedd wedi eu hateb o fewn deg munud, deg i ugain, ugain i dri deg a mwy na thrideg munud.

Dangosodd y wybodaeth nad oedd yr ambiwlans wedi cyrraedd un galwad yng nghategori A yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am 7 awr tra ei bod hi wedi cymryd 4 awr i'r ambiwlans ymateb yng Nghwm Taf.

Dywed y gwasanaeth ambiwlans ei bod yn gweithio yn galed i sicrhau bod ganddynt ddigon o staff yn y gwaith i ymateb i alwadau pan fo cleifion yn gofyn am help a'i bod yn cydweithio gyda'r byrddau iechyd er mwyn lleihau'r amser trosglwyddo cleifion i'r ysbytai. Mae'r amser hwn yn golygu bod parafeddygon methu ymateb i alwadau 999.

Pryder

Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr AC Elin Jones bod y ffigyrau yn destun pryder

Mae llefarydd Plaid Cymru ar faterion iechyd, yr Aelod Cynulliad Elin Jones yn dweud bod yna gwestiynau i'w hateb: "Mae cael mwy na 11,000 o'r galwadau mwyaf argyfyngus yn cymryd mwy na dwbl yr amser targed o wyth munud i ymateb yn achosi pryder. Gall y galwadau hyn fod yn sefyllfaoedd bywyd neu farwolaeth lle mae amser o'r pwys mwyaf.

"Mae'n ddychryn ei bod wedi cymryd llawer awr i ymateb i alwadau Categori A; yn amlwg mae angen holi cwestiynau."

Tywydd garw

Mewn datganiad mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi dweud mai'r tywydd garw achosodd oedi o saith awr yn yr achos yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Sue Jenkins, Cyfarwyddwr y gwasanaeth fod yr alwad wedi dod gan berson oedd yn byw mewn ardal wledig a bod nifer o wasanaethau eraill gan gynnwys yr heddlu a thîm achub mynydd wedi cynorthwyo: "Yn anffodus roedd mynd i'r tŷ yn anodd iawn oherwydd bod coed wedi blocio'r ffordd yn sgil eira trwm.

"Fe gysylltwyd â'r RAF i helpu ond oherwydd y tywydd garw doedden nhw ddim yn gallu hedfan. Mi gyrhaeddodd y tîm achub mynydd yn y diwedd a dod a'r claf i lawr i gyfarfod y criw."

Doedd yr ambiwlans ddim wedi cael cyfarwyddyd i gyrraedd yr alwad yng Nghwm Taf yn syth am nad oedd hi yn sefyllfa o argyfwng meddai Sue Jenkins. Mae'n cyfaddef fod yr ambiwlans wedi bod dwy awr ac 28 munud yn hwyr ond fod y gwasanaethau brys wedi cadw mewn cysylltiad gyda'r claf yn ystod yr oedi.

Yn fwy cyffredinol mae'r datganiad yn nodi fod y gwasanaeth wedi ymateb i 22,000 yn fwy o alwadau wedi eu categoreiddio fel y rhai mwyaf argyfyngus, galwadau coch yn 2012/13 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol: "Fe gyrhaeddodd yr ambiwlansys (the trust) fwy na 101,000 o'r galwadau coch yma o fewn yr wyth munud safonol, sydd bron yn 3,500 yn fwy o gleifion na'r flwyddyn cynt."

Sawl mesur

Isel mewn gwirionedd yw'r nifer o barafeddygon wnaeth ddim cyrraedd cartrefi pobl o fewn ychydig funudau'r llynedd meddai Llywodraeth Cymru. Maen nhw'n honni mae 6.8% oedd y canran o alwadau lle bu'n rhaid i gleifion aros fwy nag ugain munud cyn i'r ambiwlans ddod.

Maent yn derbyn bod angen gwneud mwy o welliannau ond hefyd yn dweud bod sawl ffordd i fesur y gwasanaeth: "Mae yna gonsensws na ddylai'r targed o wyth munud gael ei weld fel yr unig ffordd i fesur perfformiad yr ambiwlansys.

"Tra bod cyflymder yn bwysig iawn ar gyfer rhai afiechydon megis trawiad ar y galon, does dim llawer o dystiolaeth glinigol sydd yn profi y byddai cyflyrau eraill llai difrifol yn elwa o gael ymateb o fewn wyth munud.

"Rydyn ni ar hyn o bryd yn ystyried sut y gall perfformiad y gwasanaeth ambiwlans gael ei fesur yn well i adlewyrchu'r canlyniad i'r claf, ac nid jest yr amser y mae'n cymryd i'r ambiwlans gyrraedd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol