Ambiwlansys: Y camau nesaf

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi dweud y bydd yn ystyried sut i sicrhau safonau clinigol sy'n ymwneud â gwaith dyddiol y gwasanaeth ambiwlans.

Wrth ymateb i Adolygiad McClelland, cyhoeddodd ei fod wedi gofyn i CDV Jones, cadeirydd arweiniol dros ofal heb ei drefnu, edrych ar ffyrdd posib o wneud hyn.

Dywedodd Mr Drakeford hefyd y byddai ystyriaeth i sut yr oedd ambiwlansys yn cael eu defnyddio yn dechrau'n fuan.

Ar hyn o bryd mae ambiwlansys yn ymateb i ddigwyddiadau brys ac yn cludo cleifion.

Bydd dyfodol Galw Iechyd Cymru hefyd yn cael ei ystyried, hynny yw y gwasanaeth lle mae pobl yn ffonio er mwyn cael cyngor am eu hiechyd.

Mae Galw Iechyd Cymru yn cyflogi dros 300 o staff.

Opsiynau

Y cyhoeddiad yw'r datblygiad diweddara' yn y broses o ddiwygio'r gwasanaeth.

Roedd yr adolygiad wedi dweud bod angen newid mawr i'r ffordd mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg.

Bydd y gweinidog yn ystyried dyfodol y gwasanaeth ambiwlans dros y misoedd nesaf.

Un o brif argymhellion yr adolygiad oedd y dylai'r llywodraeth benderfynu ar "weledigaeth glir" ar gyfer dyfodol y gwasanaeth.

Roedd tri opsiwn ar gyfer y dyfodol:

  • Yn gynta', rhedeg y gwasanaeth ambiwlans fel bwrdd iechyd ar wahân o dan oruchwyliaeth y llywodraeth;

  • Yr ail opsiwn fyddai comisiynu'r gwasanaeth drwy gyfrwng y byrddau iechyd;

  • Yn drydydd, gallai byrddau iechyd unigol gymryd cyfrifoldeb am y gwasanaeth ambiwlans o fewn eu hardaloedd.

Awgrymodd Mr Drakeford y byddai'n gwneud penderfyniadau pendant ar hyn ym mis Gorffennaf.