Chwech dal yn yr ysbyty wedi damwain yn Y Rhws
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr wedi sôn am ei "brofiad ofnadwy" tra bod pedwar o blant a dwy fenyw yn yr ysbyty o hyd.
Roedd damwain ffordd y tu allan i Ysgol Gynradd Rhws ym Mro Morgannwg fore Iau.
Cafodd naw eu hanafu.
Troi drosodd
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Heol Fontygary yn Y Rhws am 08:50am ddydd Iau.
Yn ôl adroddiadau, roedd car Audi A3 tywyll wedi troi drosodd gan anafu nifer.
Dyw swyddogion yr heddlu ddim yn disgrifio'r digwyddiad fel gweithred fwriadol.
Dywedodd y gyrrwr 61 oed, Robert Bell fod y profiad yn "ofnadwy".
"Yn ôl fy wyres, oedd yn y car, fe ges i bwl o beswch cyn mynd yn anymwybodol.
"Sdim syniad 'da fi beth ddigwyddodd.
"Y peth nesa' oedd 'mod i'n dihuno ac yn wyneb i waered."
"Codi i'r awyr"
Dywedodd pobl leol wrth y BBC fod car wedi taro postyn o flaen yr ysgol ac yna "yn codi i'r awyr."
Ychwanegodd tyst: "Fe glywodd rhieni swn bang ac roedden nhw'n meddwl mai gwn oedd e.
"Doedden nhw ddim yn gwybod beth ddigwyddodd.
"Mae rhai o'r mamau wedi dod i nôl eu plant a mynd â nhw adref. Maen nhw i gyd wedi cael ysgytwad."
Llygad dyst
Dywedodd un o'r bobl leol wrth y BBC ei bod hi wedi clywed adroddiadau am gerbyd yn gwyro cyn taro pobl.
"Roedd y wraig gyntaf y siaradais i gyda hi yn dweud bod ei ffrind yn mynd â'i chi am dro pan welodd hi gar yn taro yn erbyn y fenyw lolipop tu allan i'r ysgol," meddai.
"Roedd y fenyw lolipop yn helpu nifer o blant i groesi'r hewl ar y pryd."
"Sŵn mawr a sgrechen"
Dywedodd llygad dyst a ffoniodd y gwasanaethau brys: "Roeddwn i yn mynd â'r ci am dro ... pan gerddais rownd y gornel fe welais i'r car yn yr awyr."
"Roedd yr hewl yn llawn plant yn cyrraedd yr ysgol - roedd yna sŵn mawr a llawer o sgrechen.
"Roedd plant yn gorwedd yn y ffordd wedi eu hanafu ac roedd rhieni a phobl a oedd yn pasio yn rhedeg atyn nhw i'w helpu.
"Fe alwes i'r gwasanaethau brys ac roedd yna rieni a pharafeddygon oedd ddim ar shifft yn helpu'r rhai oedd wedi anafu.
'10 ambiwlans'
"Roedd y fenyw lolipop yn sownd - y cwbl allwn i 'i weld oedd ei siaced o dan y car.
"Cafodd y plant welodd beth ddigwyddodd eu hebrwng i'r ysgol. Maen nhw yn cael eu cadw yno tra bod y gwasanaethau brys yn delio gyda'r sefyllfa.
"Roedd yna o leiaf 10 ambiwlans a phedair injan dân."
Roedd ffon y fenyw lolipop yn gorwedd yn y ffordd wrth ymyl y car Audi A3.
Cefnogaeth
Mae Cyngor Sir Bro Morgannwg yn rhoi cefnogaeth i staff a disgyblion yr ysgol gynradd ar ôl y digwyddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Elmore, aelod y Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Plant: "Mae swyddogion adran addysg y sir yn yr ysgol i roi cefnogaeth i staff ac mae 'na seicolegydd addysg yn gweithio gyda'r plant.
"Mae'r cyngor hefyd wedi bod yn cydweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys.
"Rydym ni yn edrych ar ba gymorth sydd ei angen ar y gymuned leol."