Ceisio gwerthu cig coch i Rwsia
- Cyhoeddwyd
Bydd cynrychiolwyr o gwmnïau cig o Gymru yn Moscow yr wythnos hon i geisio ennill archebion ar gyfer cig oen ac eidion.
Nod y daith, sy'n cael ei harwain gan Hybu Cig Cymru, yw cynyddu allforion cig coch o Gymru i Rwsia.
Fe fydd y cynrychiolwyr yn bresennol mewn derbyniad yn llysgenhadaeth Prydain yn Moscow a fydd yn cael ei gynnal gan Lysgennad Prydain, Tim Barrow, a Gweinidog Busnes Cymru Edwina Hart.
'Bwydydd o safon'
Dywedodd prif weithredwr Hybu Cig Cymru, Gwyn Howells, bod y daith dri diwrnod yn benllanw blynyddoedd o drafod gyda'r awdurdodau yn Rwsia.
"Ers cwymp y llen haearn mae economi Rwsia wedi tyfu'n anferthol - felly hefyd gofynion ei thrigolion," meddai.
"Fel economïau eraill y dwyrain pell, mae cwsmeriaid yn Rwsia yn dod yn fwyfwy llewyrchus ac maen nhw'n chwilio am fwydydd o safon uchel mewn siopau a thai bwyta.
"Mae cig oen a chig eidion o Gymru yn berffaith felly."
Yn ôl Hybu Cig Cymru, fe ddaeth dirprwyaeth o archwilwyr o Rwsia i Gymru yn gynnar yn 2012 er mwyn gweld yr amodau ar ffermydd ac mewn ffatrïoedd prosesu.
Llacio cyfyngiadau?
Mae rheolau yn Rwsia yn cyfyngu ar faint o gig eidion y mae modd ei fewnforio, ond does dim cyfyngiad o'r fath ar gig oen.
Ychwanegodd Mr Howells: "Mae hyn yn newyddion da i'r diwydiant cig oen, sydd â'r potensial i allforio maint sylweddol o gig oed Cymreig i'r wlad yn flynyddol.
"Rwyf hefyd yn optimistaidd y byddwn yn gweld cig eidion o Gymru ar werth yno'n fuan.
"Roedd allforion o gig oen a chig eidion o Gymru yn werth £218 miliwn i economi Cymru yn 2012, ac mae'r ffigwr yna'n siŵr o godi unwaith y byddwn wedi cael mynediad i'r farchnad yn Rwsia.
"Unwaith y bydd ffederasiwn Rwsia yn cytuno i fewnforio cig coch o Gymru, mae hynny'n golygu y gallwn allforio ein cynnyrch i Belarus a Kazakhstan sydd hefyd yn aelodau o'r grŵp masnachu."
Mae Rwsia yn un o'r mewnforwyr mwyaf o gig eidion yn y byd. Pe bai cyfyngiadau'n cael eu llacio, yr amcangyfrif yw y bydd y farchnad gig eidion yn unig yn werth hyd at £115 miliwn i gynhyrchwyr o Brydain.
Bydd y cynrychiolwyr o'r diwydiant yn Moscow o ddydd Mercher, Mehefin 26 tan ddydd Gwener, Mehefin 28.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2011