Miliband: Newid y berthynas ag undebau

  • Cyhoeddwyd
Ed MilibandFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ed Miliband eisiau system wleidyddol sy'n "fwy agroed, tryloyw a dibynadwy"

Mae Ed Miliband wedi amlinellu cynlluniau i gyflwyno newidiadau sylweddol i'r berthynas ariannol rhwng y blaid Lafur a'r undebau.

Ar hyn o bryd mae tair miliwn o aelodau undeb yn talu ffi yn awtomatig i Lafur, ond mae Mr Miliband eisiau diwygio'r berthynas "hanesyddol" rhwng ei blaid a'r undebau.

Dywedodd yr arweinydd fod angen i aelodau undeb wneud penderfyniad "bwriadol" i gefnogi Llafur.

Galwodd hefyd am gyfyngu ar faint o arian y gallai rhai ASau ennill trwy ail swydd.

Mae Mr Miliband wedi addo gwneud gwleidyddiaeth yn "fwy agored, tryloyw a dibynadwy" trwy ddiwygio perthynas Llafur gyda'r undebau.

Falkirk

Daw ei sylwadau wedi ffrae gydag undeb Unite ynghylch dewis ymgeisydd yn etholaeth Falkirk.

Ffurfiwyd Unite pan unodd undeb y gweithwyr cludiant gydag Amicus yn 2007. Mae'r undeb yn cyfrannu cyllid sylweddol i'r blaid Lafur.

Mae Unite wedi ei gyhuddo o gofrestru aelodau gyda Llafur yn Falkirk - rhai heb yn wybod iddyn nhw - mewn ymgais i sicrhau bod yr ymgeisydd y mae'r undeb yn ei gefnogi yn cael enwebiad y blaid.

Mae arweinydd yr Undeb Len McCluskey yn gwadu bod pobl wedi eu cofrestru fel aelodau heb wybod fod hynny'n digwydd, ac mae'n dweud bod Unite wedi gweithredu o fewn y rheolau.

Yn ei araith ddydd Mawrth, fe alwodd Mr Miliband am system a oedd yn "fwy agored, tryloyw a dibynadwy - i'r gwrthwyneb o'r math o wleidyddiaeth a welwyd yn Falkirk. Dyna i chi wleidyddiaeth gaeedig, fel peiriant, y math o wleidyddiaeth mae pobl yn ei gasáu.

"Mae'r hyn a ddigwyddodd yn Falkirk yn enghraifft o wleidyddiaeth hen, sy'n marw. Mae'n symbol o'r hyn sydd o'i le gyda gwleidyddiaeth. Rwyf i eisiau adeiladu Plaid Lafur well - ac adeiladu gwleidyddiaeth well i Brydain.

"Does dim lle o fewn ein plaid ar gyfer arfer ddrwg o ble bynnag y daw. Rwy'n benderfynol o gynnal gonestrwydd y blaid."

Ailgysylltu

Yn gynharach, dywedodd AS Castell-nedd, Peter Hain: "Y syniad mawr tu ôl i argymhelliad Ed Miliband... yw i ddatblygu plaid sy'n gwneud cysylltiadau eang ar draws y wlad.

"Yr hyn sy'n bwysig yw nodi bod aelodaeth pob plaid wedi cwympo'n drychinebus dros y 30/40/50 mlynedd ddiwethaf.

"Wedi'r ail ryfel byd roedd 5 o bob 100 person yn aelodau pleidiau, nawr y mae llai nac un, felly mae yna duedd amlwg o gwymp mewn aelodaeth pleidiau.

"Fe ddylem ailgysylltu gyda'n seiliau - gyda'r bobl - trwy gefnogwyr cofrestredig... ac yn achos undebau, gyda'r bron i dair miliwn o bobl sy'n talu'r levy sy'n gysylltiedig gyda'r blaid - ond mewn modd sydd at ei gilydd yn oddefol, ddim yn weithredol.

"Ac felly ar lefel y pleidiau leol, ychydig iawn sy'n weithgar mewn modd ystyrlon yn ystod y flwyddyn... ac mae hynny'n amddifadu Llafur o'r hyn sydd wedi bod yn gryfder hanesyddol i'r blaid - cysylltu â seiliau ehangach nac aelodaeth y blaid sydd wedi bod yn edwino.

"Mae Ed wedi gwneud hi'n glir ei fod am drwsio'r berthynas [gyda'r undebau] yn hytrach na'i diweddu."