Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2013
- Cyhoeddwyd

Denodd 67fed Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen bobl o dros y byd i gyd.

Mae'r eisteddfod wedi cael tywydd arbennig o dda eleni.

Mae digon o adloniant i'w gael ar y maes, yn ogystal â thu fewn i'r pafiliwn.

Roedd croeso cynnes i'r eisteddfod gan y cystadleuwyr.

Bu band pres yn diddanu'r dorf ar lwyfan S4C.

Mae cerddorwyr a dawnswyr i'w gweld ym mhob cwr o'r maes.

Mae'r dawnswyr yma o India yn olwg lliwgar ar faes yr eisteddfod.

Bydd yr eisteddfod yn gorffen ar 14 Gorffennaf.