'Ymchwiliad llawn' i farwolaethau milwyr ym Mannau Brycheiniog

  • Cyhoeddwyd

Dywed yr Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond y bydd yna 'ymchwiliad lluodd arfog llawn' i farwolaeth dau filwr wrth gefn yn ystod hyfforddiant ym Mannau Brycheiniog.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Craig Roberts o Fae Penrhyn, Conwy yn gweithio fel athro yn Llundain

Bu farw Isgorporal Craig Roberts, oedd yn 24 oed ac o Fae Penrhyn yng Nghonwy a milwr arall ar y diwrnod cynhesaf yng Nghymru eleni.

Mae un milwr arall yn parhau'n ddifrifol wael.

Dywedodd teulu'r Isgorporal Roberts ei fod wedi marw tra'n 'dilyn ei freuddwyd'.

Mew datganiad a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, dywedodd tad Mr Roberts, Kelvin, fod colled Craig "wedi gadael twll enfawr yn ein bywydau ni i gyd."

Ymchwiliad

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio a'r gred yw y bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y tywydd a'r math o hyfforddiant.

Hwn oedd diwrnod poethaf y flwyddyn, gyda'r tymheredd yn cyrraedd 30C yn rhannau o Bowys.

Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Gallwn gadarnhau ein bod yn gweithio gyda Heddlu Dyfed Powys ar ymchwiliad i ddigwyddiad yn ystod hyfforddiant ym Mannau Brycheiniog ddydd Sadwrn pan gafodd dau aelod o'r fyddin eu lladd.

"Mae teuluoedd y ddau wedi cael gwybod. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi maes o law ond byddai'n amhriodol i wneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd."

Bydd gwasanaeth coffa yn Eglwys Priordy'r Santes Fair yn Y Fenni ddydd Sul.

Gwres

Yn ôl Maer Aberhonddu, Matthew Dorrance: "Mae'n hynod drist i deuluoedd a ffrindiau'r rhai sydd wedi colli eu bywydau ac rydym yn meddwl am y sawl sydd wedi'i anafu.

"Mewn un ffordd mae'r tywydd wedi bod yn fendith ond i bobl sy'n gweithio yn y gwres yma, mae'n galed iawn.

"Rydym yn aml yn gweld milwyr yn hyfforddi yn yr ardal a'u cerbydau wedi eu parcio ar ochr y ffordd.

"Rydym yn falch o'n cysylltiadau gyda'r fyddin yn y dref."

'Tirwedd heriol'

Dywedodd yr Uwchgapten Alan Davies fod y Bannau yn cael eu defnyddio ar gyfer "pob math o bobl ac ar gyfer pob math o bethau".

"I un pegwn mae gennych gadlanciau sy'n cerdded y mynyddoedd ac i'r pegwn arall mae'r SAS yn eu defnyddio," meddai.

"Mae gyda'r tirwedd mwya' heriol."

Yn ôl Mr Davies, gallai'r dynion fod wedi bod yn cario offer trwm ac yn gweithio i amserlen dynn fyddai'n golygu eu bod yn gweithio'n hynod o galed:

"Mae'n siŵr y byddai wedi bod yn oerach ym Mannau Brycheiniog y diwrnod dan sylw nag yw hi yn anialwch Afghanistan," ychwanegodd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol