Croeso Cymreig i'r tywysog newydd

  • Cyhoeddwyd
Cydweithwyr Dug Caergrawnt yn anfon eu llongyfarchiadauFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cydweithwyr y dug yng nghanolfan yr awyrlu yn Y Fali wedi anfon fideo gyda'u dymuniadau gorau.

Mae negeseuon yn llongyfarch Dug a Duges Caergrawnt ar enedigaeth eu mab wedi eu hanfon o Gymru.

Mae gan y cwpwl gartref yn Ynys M么n, ac mae cydweithwyr y dug yng nghanolfan yr awyrlu yn Y Fali wedi anfon fideo gyda'u dymuniadau gorau.

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol David Jones, a'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dymuno'n dda i'r Dug a'r Dduges.

Cyfeiriodd David Jones at "achlysur llawen" gan ddweud ei fod "wrth ei fodd i glywed am enedigaeth ddiogel Tywysog mwyaf newydd ein cenedl."

Dywedodd Carwyn Jones: "Mae gan y cwpwl eisoes gysylltiadau cryf 芒 Chymru, gan ddewis Ynys M么n fel lle i fyw ar ddechrau eu bywyd priodasol, a bydd croeso cynnes iawn iddyn nhw yma fel teulu bob amser."

Neges fideo

Ddydd Mawrth anfonodd cydweithwyr y dug yn Y Fali, ble mae'n beilot gyda'r timau chwilio ac achub, negeseuon fideo.

Dug CaergrawntFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dug Caergrawnt yn beilot chwilio ac achub yn Ynys M么n

Dywedodd un bod angen i'r dug ddychwelyd er lles y t卯m p锚l-droed.

Bydd y dug yn cael pythefnos o gyfnod tadolaeth o'r Weinyddiaeth Amddiffyn, cyn dychwelyd i'w ddyletswyddau.

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd wedi anfon llongyfarchiadau.

Dywedodd Rosemary Butler ei bod yn ysgrifennu ar ran y Cynulliad:

"Boed i chi fwynhau'r amser arbennig hwn gan wybod fod y genedl hefyd yn dathlu bod y Babi Brenhinol wedi cyrraedd yn saff.

"Edrychwn ymlaen at groesawu aelod newydd y Teulu Brenhinol i Gymru yn y dyfodol agos."

Mae'r dug yn is-noddwr Undeb Rygbi Cymru ac yn noddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru ar gyfer chwaraewyr sydd wedi eu hanafu.

Dywedodd Prif Weithredwr Gr诺p URC, Roger Lewis: "Rydym wrth ein boddau dros y cwpwl Brenhinol ac yn ymuno 芒 gweddill y genedl yn cynnig ein cofion didwyll gorau a'n llongyfarchiadau ar y newyddion da yma."

Darnau ArianFfynhonnell y llun, Y Bathdy Brenhinol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Bathdy wedi cynhyrchu 2013 o'r ceiniogau

Ceiniog arian

Bydd babanod a aned ar yr un diwrnod 芒'r tywysog newydd yn derbyn ceiniog arian a wnaed yn y Bathdy Brenhinol.

Cyhoeddodd y Bathdy yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf y byddai plant sy'n rhannu'r pen-blwydd yn gallu derbyn un o'r darnau arian, sy'n werth 拢28 yr un.

Mae angen i rieni sydd am hawlio un gofrestru ar dudalen Facebook y Bathdy o fewn 60 diwrnod a darparu tystysgrif geni eu plentyn.