Ysbyty Dinbych: Cyngor yn ystyried gorchymyn pryniant gorfodol
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cymryd y camau cyntaf tuag at wneud gorchymyn pryniant gorfodol ar gyfer safle ysbyty Dinbych.
Ond bydd swyddogion yn dal i geisio dod i gytundeb gyda'r perchnogion i brynu'r adeiladau sy'n dadfeilio heb wneud gorchymyn pryniant gorfodol.
Cafodd yr ysbyty seiciatryddol ei gau yn 1995 wrth i wasanaethau iechyd gael eu had-drefnu. Ers hynny mae cyflwr yr adeiladau Fictoraidd wedi dirywio ac maen nhw wedi eu difrodi gan dân a fandaliaeth.
Mae'r perchnogion, cwmni Freemont (Denbigh) Ltd, sydd a'i bencadlys yn Ynysoedd Virgin, wedi dweud y bydden nhw'n herio unrhyw ymgais gan y cyngor i wneud gorchymyn pryniant gorfodol.
Gwaith brys
Y llynedd, datgelwyd bod £930,000 wedi ei wario ar waith trwsio brys ar y safle.
Penderfynodd cabinet cyngor Sir Ddinbych gefnogi'r egwyddor o gael gorchymyn pryniant gorfodol, ond fe gytunon nhw hefyd i ystyried gwneud cynnig i'r perchnogion i brynu'r adeilad heb orchymyn.
Bydd y mater nawr yn cael ei drafod ym mhwyllgor cynllunio'r cyngor ym mis Medi.
Roedd Freemont wedi bwriadu codi hyd at 280 o gartrefi, busnesau a chyfleusterau cymunedol ar y safle, gyda'r datblygiad yn eu galluogi i adfer yr adeiladau cofrestredig gwreiddiol ond fe ddaeth y caniatâd cynllunio i ben yn 2009.
£930,000
Yn dilyn pryderon am gyflwr yr adeiladau'r llynedd, anfonodd y cyngor gontractwyr i'r safle - ac fe gostiodd eu gwaith nhw £930,000. Hawliodd y cyngor y costau hynny gan y perchnogion ond nid yw'r bil wedi ei dalu eto.
Mae Ymddiriedolaeth Er Cadw Adeiladau Gogledd Cymru, mudiad na fydd yn gwneud elw, wedi ei sefydlu er mwyn cymryd cyfrifoldeb am y safle os yw'r gorchymyn pryniant gorfodol yn llwyddo.
Gallai gymryd hyd at ddeunaw mis i weithredu gorchymyn pryniant gorfodol, pe bai'r perchnogion yn herio gweithredoedd y cyngor.
Bydd prisiwr annibynnol yn cynghori'r cyngor ar eu cynnig, ond rhybuddiwyd y cyngor mewn adroddiad y bydd rhaid cael ffordd allan er mwyn sicrhau nad yw'r cyngor yn mynd i ddyled sylweddol yn y pen draw.
Cyn caniatáu gorchymyn pryniant gorfodol, byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn fodlon y bydd yr adeilad yn ôl pob tebyg yn cael ei adfer, gan ddefnyddio arian sy'n dod o werthu tir ar gyfer tai.
Yn y gorffennol, mae'r cyfreithiwr Ayub Bhailok, sy'n cynrychioli Freemont, wedi dweud y byddai'r cwmni yn gwrthwynebu gorchymyn pryniant gorfodol ac mae wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i weithredoedd y cyngor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2012