Colli apêl tŷ crwn yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Bydd tŷ dadleuol a gafodd ei adeiladu yng nghefn gwlad Sir Benfro yn cael ei ddymchwel, wedi penderfyniad gan yr arolygydd cynllunio.
Cafodd y tŷ ei godi gan Charlie Hague a Megan Williams, ar dir oedd yn berchen i dad Mr Hague, heb gael caniatad cynllunio.
Penderfynodd Cyngor Sir Benfro y byddai rhaid i'r tŷ crwn ger Crymych fynd, ond fe wnaeth y perchnogion apelio.
Roedden nhw'n dadlau nad oedd y tŷ eco, sydd a'i waliau wedi eu gwneud o wellt, yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.
Ond yn yr apêl, penderfynodd yr arolygydd Iwan Lloyd bod y tŷ yn niweidio'r olygfa yn yr ardal.
Deunydd naturiol
Cafodd y tŷ un llawr ei adeiladu gan Mr Hague, sy'n gerflunydd, allan o ddeunyddiau lleol dros gyfnod o flwyddyn. Mae'r waliau wedi eu gwneud o wellt a'r to o wair.
Roedd apêl y teulu yn honni nad oedd y tŷ na'r ffordd y cafodd ei godi wedi cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.
Ond gwrthod y ddadl wnaeth Iwan Lloyd, ac mae gan y teulu ddau fis i ddymchwel y tŷ a'r holl waith cysylltiedig.
Dywedodd bod yna "ddiffyg cyfiawnhad o fudd y datblygiad yn yr achos yma" i orbwyso'r polisïau sy'n rheoli datblygiad yng nghefn gwlad.
"Dydy buddion y datblygiad yma ddim yn fwy na'r niwed i gymeriad ac ymddangosiad yr ardal."
Cyfle arall
Mae'r cynghorydd Rob Lewis, dirprwy arweinydd cyngor Sir Benfro wedi croesawu'r penderfyniad.
"Mae'r broses cynllunio yn drylwyr ac yn un gyda chanllawiau clir, ac os ydy hynny am gael ei weithredu yn deg rhaid i bawb adlynu."
Ond mae un cyfle arall i achub y tŷ, wrth i'r cyngor ddweud eu bod am drafod cais ôl-weithredol.
"Mae cais ôl-weithredol wedi ei dderbyn a bydd yn cael ei hystyried ar ei rinweddau ei hun."