Rhun yw y dyn...

Roeddwn i wedi gobeithio bod "Things can only get better" wedi rhoi terfyn ar ganeuon etholiad. Ymddengys yn wahanol. Gallwn ychwanegu "Rhun yw y dyn i Sir Fôn" at "Wigli, Wigli" a "Who'll put the Phil in Caerphilly" yng nghaniedydd y cenedlaetholwyr.

A phwy sydd i ddweud nad yw'r caneuon yma'n gweithio? Anodd yw dadlau â 'r ffigyrau.

Mae Rhun ap Iorwerth yn ymuno â Cledwyn Hughes (1966) ac Ieuan Wyn Jones (1999) i ffurfio triawd o wleidyddion dydd wedi ennill dros hanner y pleidleisiau ar y fam ynys. Oedd, roedd y canran wnaeth bleidleisio yn gymharol isel ond nid Plaid Cymru sydd ar fai am hynny. Os fethodd eraill i gael eu pleidleiswyr mas - rhyngddyn nhw a'u pethau.

Mae'n arwyddocaol efallai bod gan Ukip a'r Blaid Lafur Sosialaidd fwy i ddathlu yn Llangefni nac oedd gan dair o'n "prif bleidiau".

Yr hyn oedd yn ddiddorol i mi ar Ynys Môn oedd gweld Plaid Cymru yn ceisio arddel rhai o dactegau ymgyrchu'r SNP gyda phwyslais di-ildio ar fod yn bositif ac optimistaidd.

Mae hynny yn groes i'r graen i ddelwedd draddodiadol y pleidiau cenedlaethol. P'un ai ydyn nhw'n haeddu hynny ai peidio, fel pobol a tsip ar eu hysgwyddau y mae cenedlaetholwyr yn draddodiadol yn cael eu gweld.

Mae cwyno yn fodd i ennill pleidleisiau ond dyw e ddim gan amlaf yn ddigon i ennill mwyafrif. Fe sylweddolodd Alex Salmond hynny flynyddoedd yn ôl. Dysgodd Plaid Cymru hynny hefyd yn isetholiadau'r chwedegau ond anghofiwyd y wers. Efallai taw "Rhun yw y dyn i Sir Fôn" yw'r pris sy'n rhaid ei dalu am ei hail-ddysgu!

Lle mae'r canlyniad yn gadael Plaid Cymru ac yn fwy pennodol Leanne Wood, felly?

Y peth cyntaf i ddweud, wrth reswm, yw bod llwyddiant etholiadol yn cryfhau unrhyw arweinydd ac fe gymerodd arweinydd Plaid Cymru rhan blaenllaw yn yr ymgyrch. Gall hi hawlio peth o'r clod am y canlyniad felly.

Serch hynny mae'n anodd credu na fydd rhai o fewn Plaid Cymru yn gweld Rhun ap Iorwerth fel arweinydd posib i'r dyfodol.

Am ddegawd bron Adam Price oedd "mab darogan" Plaid Cymru. Tybed a yw e'n fwy o Ioan Bedyddiwr?

Fe gawn weld!