Prosiect FfrinDiaith i helpu dysgwyr Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect newydd i helpu dysgwyr Cymraeg i ddod o hyd i ffrindiau sy'n siarad Cymraeg wedi cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae'n brosiect ar y cyd rhwng y chwe Chanolfan Cymraeg i Oedolion ledled Cymru a'r cwrs ar-lein SaySomethinginWelsh.com.
Gall siaradwyr Cymraeg a dysgwyr gofrestru ar y we a chysylltu â'i gilydd i drefnu sesiynau anffurfiol rheolaidd.
Daeth y syniad gwreiddiol ar gyfer y prosiect gan y darlledwr Hywel Gwynfryn, wedi iddo helpu ffrind i ddysgu'r iaith.
Bu'n sgwrsio gyda Rosie Gleeson, sydd yn gweithio yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, unwaith yr wythnos.
'Brwdfrydig'
Dywedodd Ms Gleeson ei bod yn meddwl bod y prosiect yn "syniad gwych" a bod cwrdd â Hywel yn gyson wedi bod o fudd mawr.
"Mae'n fy nghadw'n frwdfrydig a gan fy mod yn gwybod fy mod yn cwrdd â Hywel mae'n rhaid i mi wneud fy ngwaith cartref," meddai.
"Mae Hywel bob amser yn dod o hyd i adnoddau a syniadau newydd ac mae'n gadael i mi siarad am bethau mae gen i ddiddordeb ynddynt, yn enwedig barddoniaeth.
"Mae hefyd yn ddefnyddiol iawn i ddysgu Cymraeg llafar yn hytrach nag academaidd gan ei fod yn golygu pan fyddaf yn defnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd mae'n llawer haws i mi ei ddeall."
Dywedodd Ms Gleeson ei bod yn "anrhydedd" cael ei mabwysiadu fel dysgwr gan Hywel.
"Rwyf wrth fy modd gyda'r iaith Gymraeg ond allwn i ddim fforddio gwersi priodol ac allwn i ddim gweld ffordd o symud ymlaen.
"Mae'r cynllun hwn wedi fy ngalluogi i astudio Cymraeg yn fy ffordd fy hun ac yn fy amser fy hun.
"Rwy'n gobeithio bod yn rhugl erbyn y flwyddyn nesaf nawr!"
Cyfrifiad 2011
Yn ôl Hywel Gwynfryn, daeth gwreiddyn y syniad o ganlyniad Cyfrifiad 2011, a ddangosodd cwymp o 20,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg.
"Roedd pawb yn gofyn 'be' sy' wedi digwydd?' Neb yn dweud 'dwi'n mynd i helpu'...Mae cyfrifoldeb arnon ni i gyd i wneud rhywbeth.
"Yn ogystal â dosbarthiadau i ddysgwyr, ma' isho rhywbeth i bobl sy' ddim yn gallu mynd i wersi ffurfiol pob wythnos.
"Felly nes i feddwl, pam ddim mabwysiadu rhywun sy'n dysgu fel petai, a chwrdd efo nhw unwaith yr wythnos?
"Mae gan Rosie stori ddifyr - mae ei mam o Ffrainc a'i thad yn dod o Basingstoke. Mae hi'n licio barddoniaeth, felly mae'n help bod ganddi ddiddordeb mewn iaith.
"Mae'r prosiect yn cael ei lansio ddydd Mercher a dwi'n meddwl bod hi'n bwysig iawn bod Cymry Cymraeg yn cael gwybod amdano er mwyn sefydlu rhwydwaith o bobl i helpu'r dysgwyr."
"Mae hwn yn gam mawr ymlaen ar gyfer dysgwyr Cymraeg," meddai Siôn Meredith, Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru.
"Un o'r heriau mwyaf y mae dysgwyr yn ei wynebu yw mynd â'r Gymraeg allan o'r dosbarth ac i'r gymuned.
"Bydd ffrinDiaith.org yn eu helpu i ddod i 'nabod siaradwyr Cymraeg cyn gynted ag y byddan nhw yn dechrau dysgu, felly bydd ganddyn nhw gysylltiad yn syth bin gyda'r gymuned Gymraeg ei hiaith, a fydd yn tyfu ac yn dyfnhau wrth iddyn nhw feithrin mwy o hyder yn yr iaith."